Datganiadau i'r Wasg

Sain Ffagan a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn cynnig teithiau ar y cyd

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ynghyd â Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn cynnig teithiau Iaith Arwyddion Prydain (IAP) gyda Thywysion Byddar – dyma'r tro cyntaf i amgueddfa yng Nghymru gynnig teithiau o’r math yma. 

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ynghyd â Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn cynnig teithiau Iaith Arwyddion Prydain (IAP) gyda Thywysion Byddar – yr Amgueddfa gyntaf yng Nghymru i gynnig teithiau o’r math yma. 

Yr wythnos hon (1-7 Hydref 2007) mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn rhedeg ymgyrch ledled y Deyrnas Unedig i annog y cyhoedd i ddysgu IAP a bydd Sain Ffagan yn cefnogi’r fenter hon drwy gynnig ymweliadau ar gyfer y Byddar ar draws y safle.

“Bydd y teithiau, a gynhelir am 2 pm ar 3 Hydref ac 1 pm ar 6 Hydref, yn cynnwys ffermdy eiconig Kennixton, Siop Gwalia ac atyniad diweddaraf Sain Ffagan, Oriel 1” dywedodd Beth Thomas, Ceidwad Bywyd Gwerin yr Amgueddfa.

“Hyd y gwyddom, nid oes un Amgueddfa arall yng Nghymru’n cynnig teithiau gan ddefnyddio IAP a dim ond nifer cyfyngedig o atyniadau ar draws Prydain sydd yn gwneud. Rydyn ni’n cyfri IAP i fod yn un o ieithoedd Cymru – fel y nodir ar Wal Ieithoedd Oriel 1 – felly os yw’r teithiau’n llwyddiannus mis yma, byddwn ni’n ystyried eu cynnal yn gyson.”

Mae mynediad i Sain Ffagan – fel holl safleoedd Amgueddfa Cymru – am ddim ond rhaid llogi lle ar gyfer y teithiau IAP gan fod llefydd yn brin. Anfonwch e-bost at: juli.paschalis@amgueddfacymru.ac.uk i sicrhau’ch lle. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon.

 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3486 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.