Datganiadau i'r Wasg

Gweithgareddau di-ri i'r teulu cyfan yn y de-ddwyrain ym mis Hydref

Mae llond y lle o hwyl yn disgwyl ymwelwyr Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Big Pit ym mis Hydref.

Darganfyddwch fyd y Celtiaid yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Criw rhyfelgar oedden nhw, oedd yn byw yng Nghaerllion ymhell cyn dyddiau’r Rhufeiniaid. Cewch wisgo fel Celt a dysgu rhagor am fywydau’r bobl liwgar hyn. Dewch i fwynhau ein gweithgareddau arbennig 11 am-4 pm dydd Llun, 29 Hydref-Gwener 2 Tachwedd, am £1 y plentyn.

 

Nos Fercher 31 Hydref byddwn ni’n dathlu Samhain – noson arswyd y Rhufeiniaid a’r Celtiaid. Daw’r ysbrydion Rhufeinig allan i chwarae, gyda gemau a gweithgareddau, gan gynnwys cystadleuaeth gwisg ffansi. Rhaid bwcio tocynnau ymlaen llaw, £2 i blant, £1 i oedolion, rhwng 6 pm–8 pm.

 

Yn Big Pit, dros hanner tymor gall ymwelwyr o bob oedran ddysgu rhagor am ein Lle Dysgu newydd gydag Wythnos Ddarganfod llawn gweithgareddau ymarferol. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys darganfod hen bethau a chwisiau difyr i’ch helpu chi i ddeall yr arddangosfeydd. Bydd y gweithgareddau’n digwydd 29 Hydref-2 Tachwedd, 11 am-4 pm.

 

 

 I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau mis Hydref, cysylltwch â Kathryn Stowers, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru.

Ffôn: (01495) 796416, 07970 017210.

E-bost: Kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk