Datganiadau i'r Wasg

Digwyddiad i'r cyhoedd i lansio Adroddiad Blynyddol newydd Amgueddfa Cymru

Bydd digwyddiad arbennig i'r cyhoedd yn Y Senedd ym Mae Caerdydd yn lansio Adroddiad Blynyddol newydd Amgueddfa Cymru.

Cynhelir y digwyddiad gan Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodri Glyn Thomas AC.

Dyma gyfle i edrych nôl ar waith a gorchestion saith amgueddfa genedlaethol Cymru yn 2006/07. Bydd yn gyfle hefyd i glywed Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, yn siarad am ein gweledigaeth i fod yn amgueddfa ddysg o safon ryngwladol.

Bydd yn siarad am y ffordd y defnyddiodd yr Amgueddfa 2007, sef blwyddyn ein canmlwyddiant, i lansio rhai o'r projectau a fydd yn helpu i gyflawni'r weledigaeth. Dechreuodd y gwaith ym mis Mawrth wrth i ni agor Oriel 1 yn Sain Ffagan. Yn yr oriel newydd gyffrous yma byddwn ni'n edrych ar y gwahanol themâu sy'n creu ein hunaniaethau yng Nghymru. Gweithiodd cymunedau o bob rhan o Gymru gyda churaduron yr Amgueddfa i ddatblygu oriel fodern a rhyngweithiol.

Cynhelir y digwyddiad am 12.30 pm ddydd Iau, 25 Hydref yn Y Senedd ym Mae Caerdydd. Dewch i glywed ein cynlluniau am Sain Ffagan, a gweddill amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, dros y ganrif nesaf.