Datganiadau i'r Wasg

Cofio aberth milwyr o Gymru

Gwasanaeth Dydd Cadoediad yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

10 Tachwedd 2007

Cynhelir gwasanaeth Dydd Cadoediad wrth ymyl Cofeb Trecelyn - a symudwyd i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru o Barc Caetwmpyn, Tre-celyn - am 11 y bore ar ddydd Sadwrn, 10 Tachwedd 2007.

 

Codwyd y gofeb yn wreiddiol er cof am 79 o filwyr lleol ac ymysg y rheini fydd yn nodi’r achlysur a choffau aberth milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a rhyfeloedd eraill bydd yr Arglwydd Raglaw Capten Norman Lloyd-Edwards cangen Trecelyn y Lleng Brydeinig a chyn-filwyr.

 

Y Parchedig R Jefford fydd yn arwain y gwasanaeth sy’n dilyn gorymdaith o brif fynedfa’r Amgueddfa tuag at y gofeb am 10:30 y bore. Meddai John Williams Davies, Cyfarwyddwr Gweithredu Amgueddfa Cymru:

 

“Mae’n fraint i gynnal y gwasanaeth blynyddol yma gydag aelodau o’r Lleng Brydeinig yn Sain Ffagan, wrth ymyl cofeb sydd yn bwysig iawn i nifer o bobl Cymru. Bydd croeso i ymwelwyr, cyn filwyr ac aelodau o’r cyhoedd ymuno â ni ddydd Sadwrn i gofio am y rheini a frwydrodd dros heddwch a rhyddid mewn rhyfeloedd drwy’r byd.”

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

- Diwedd -

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3486 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

 

Nodiadau i’r Golygydd:

 

Dadorchuddiwyd Cofeb Tre-celyn am y tro cyntaf ym Mharc Caetwmpyn, Tre-celyn yn 1936 i gofio am 79 o ddynion yr ardal fu’n ymladd dros eu gwlad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ddiweddarach gosodwyd plac arni er cof am 37 o filwyr a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Erbyn heddiw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru sydd yn gofalu amdani.