Datganiadau i'r Wasg

Gwedd newydd ar y ddresel Gymreig

Trysorau Johnstown yn cael eu harddangos yng ngaleri newydd Sain Ffagan

Mae’r ddresel draddodiadol Gymreig yn Oriel 1 - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, yn cynnwys addurniadau, a chasgliad llestri gorau’r teulu. Felly, wrth wynebu’r her o guradu dresel gyfoes ar gyfer yr Amgueddfa, dewisodd Pwyllgor Rheolaeth Ieuenctid Cymunedol Johnstown, ger Wrecsam eitemau oedd yn bwysig i’w cymuned. Caiff y rhain eu dadorchuddio yn ystod lansiad arbennig yn Sain Ffagan ddydd Sadwrn 10 Tachwedd 2007.

Dewisodd un o’r aelodau, Dorothy Hind lythyr o’r Ail Ryfel Byd. Dywedodd:

 

“Aeth fy niweddar Ewyrth Tommy i ffwrdd i’r rhyfel, a dianc oddi wrth yr Almaenwyr ddwywaith. Unwaith, roedd ar drên yn mynd i garchar rhyfel, ac fe ryddhaodd estyll y llawr, a gollwng ar y cledrau. Fe’u darganfuwyd gan ffarmwr Ffrengig, a’i rhoddodd mewn cysylltiad â’r Resistance. O’n i’n meddwl ei fod yn haeddu cael ei gofio mewn rhyw fodd.”

 

Yn rhan bwysig o Oriel 1, bydd y ddresel yn cael ei harddangos am chwe mis.  Yr eitemau eraill a ddewiswyd oedd cylch allwedd Johnstown 2000, helmed glöwr, teilsen goffaol, anrheg o Dde’r Affrig a ffoil ffensio. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys crys Cymru Mark Hughes, ar fenthyg trwy ganiatâd caredig Amgueddfa Sirol Bwrdeisdref Wrecsam. Agorodd Mark Hughes Ganolfan Gymunedol yn Johnstown ym mis Gorffennaf, ac arferai chwarae i dîm iau o Johnstown cyn dod yn enwog.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell o Johnstown:

“Rwy’n falch iawn fod Johnstown yn arddangos eitemau lleol fel rhan o ddresel gymunedol Sain Ffagan i gofio am hanes y pentref a’r cymunedau. Mae’r prosiect yn fenter wych i gyfathrebu straeon tu ôl eitemau hanesyddol lleol gyda phobl o ardaloedd eraill o Gymru.”

Hon yw’r ail mewn cyfres o gynlluniau cymunedol ar gyfer Oriel 1, un o brosiectau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru gaiff ei noddi gan Gymdeithas Adeiladu Principality. Dywedodd Owain Rhys, Curadur Bywyd Cyfoes yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru:

“Mae’r ddresel gymunedol - a grëwyd gan Bwyllgor Rheolaeth Ieuenctid Cymunedol Johnstown - yn ymateb modern i’r ddresel draddodiadol Gymreig. Mae Oriel 1 yn canolbwyntio ar beth mae’n ei olygu i fod yn Gymry yn byw yng Nghymru heddiw. Roedd hi’n brofiad gwych gweithio gyda chymuned Johnstown, ac rydyn ni’n falch iawn bod eu hymdrechion yn cael eu harddangos i eraill eu gwerthfawrogi.”

Os hoffech wybod mwy neu gymryd rhan, cysylltwch ag Owain Rhys ar 029 2057 3529 neu owain.rhys@amgueddfacymru.ac.uk.

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleoedd gyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Llun: Pwyllgor Rheolaeth Ieuenctid Cymunedol Johnstown (chwith i’r dde): Dorothy Hind, Sarah Jones, Ken Valentine ac yn y blaen, Leonard Broadbent.

 

Nodiadau i Olygyddion:

  • Oriel 1 yw un o atyniadau diweddaraf Sain Ffagan sy’n defnyddio gwrthrychau, lluniau, ffilmiau, celf, straeon a phrofiadau personol i ddangos beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu’n Gymraes ac i fyw yng Nghymru heddiw. Drwy archwilio’r thema Perthyn, mae’r Oriel yn egluro fod nifer o ffyrdd gwahanol o deimlo’n rhan o’n gwlad. Mae Oriel 1 yn annog ymwelwyr o Gymru a thu hwnt i gymryd rhan a rhannu eu profiadau nhw ar sut mae eu hieithoedd, eu teulu a’u ffrindiau, eu gwreiddiau a’u credoau, yn dylanwadu ar bwy ydynt.

 

  • Ffurfiwyd Pwyllgor Rheolaeth Ieuenctid Cymunedol Johnstown ym mis Medi 2004, ac maent wedi bod yn gweithio tuag at wella cyfleusterau ieuenctid y pentref. Mae ganddynt hefyd gr?p llywio i edrych ar dreftadaeth leol, ac maent wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiectau fel y ‘cerflun cysgod amser’ a saif heddiw ar gopa’r Hafod, gerllaw.

 

·         Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw prif noddwr Oriel 1, un o atyniadau diweddaraf Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae’r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru.

Wedi ei ffurfio yn 1860, mae gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality dros 50 o ganghennau ar draws y wlad a thros 420,000 o aelodau.   

            Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â www.principality.co.uk.

·        Mae cwmni lloriau WESTCO, sy’n cyflenwi lloriau o bren a ‘laminate,’ yn falch i noddi cyfres o lyfrynnau gweithgaredd i deuluoedd i’w defnyddio yn Oriel 1 ac ar draws safle Sain Ffagan.