Datganiadau i'r Wasg

Cyfoeth coed Cymru

Diwrnod Crefftau Coed yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Agorwyd Eglwys Sant Teilo - sy’n cynnwys croglofft wedi’i cherfio â llaw - yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn ddiweddar, ac yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru mae llwy garu’n dyddio nôl i 1667. P’run ai’n un o’n heiconau cenedlaethol ydyw neu’n ddodrefn allan o bren, bydd crefftwyr yn arddangos gwaith coed yn yr Amgueddfa ar 17 Tachwedd a 1 Rhagfyr 2007.

O 10 y bore hyd at 5 y prynhawn ar y ddau ddiwrnod, bydd ymwelwyr i Sain Ffagan nid yn unig yn medru mwynhau arddangosfa o grefftau coed ond hefyd yn gallu gweld crefftwyr wrth eu gwaith.

 

Yn ôl Emma Lile, Curadur Cerddoriaeth, Chwaraeon ac Arferion Traddodiadol yn Sain Ffagan:

 

“Mae Sain Ffagan yn adnabyddus am adrodd hanes sut y bu’r Cymry’n byw a gweithio trwy gasgliad o adeiladau hanesyddol o Gymru benbaladr. Rydyn ni hefyd yn ceisio cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau fel Diwrnod Crefftau Coed er mwyn rhoi darlun cliriach i bobl o fywyd yng Nghymru. Cerfio coed – yn arbennig y sgil o gerfio llwyau caru – yw un o grefftau cynhenid y Cymry ac mae’n gweddu’n berffaith â’n casgliadau ni yma yn yr Amgueddfa Werin.”  

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

Ceir mynediad AM DDIM i’r amgueddfa sydd ar agor o 10 am – 5 pm bob dydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

- Diwedd -

Nodiadau i’r Golygydd

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleoedd cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3486 neu e-bost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.