Datganiadau i'r Wasg

Ffotograffau o sêr Cymru ar ddangos

Bydd portreadau o Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan AC, cyflwynydd y tywydd a seren y teledu Siân Lloyd a dewis y maes pêl-droed Ryan Giggs ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Mawrth 13 Tachwedd ymlaen.

Cystadleuaeth flynyddol yw’r Comisiwn Portreadau Ffotograffig Cenedlaethol (a drefnir gan Amgueddfa Cymru ar y cyd â’r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain) sy’n rhoi llwyfan i waith rhai o’r ffotograffwyr ifanc mwyaf dawnus sy’n dechrau ennill eu plwyf yng Nghymru.

 

Bydd delweddau buddugol y flwyddyn hon yn ymuno â phortreadau o Archesgob Caergaint, y Parchedicaf Dr Rowan Williams, yr awdures Sarah Waters, cynhyrchydd a sgriptiwr Dr Who, Russell T. Davies a’r delynores Catrin Finch o gomisiynau 2005 a 2006 yn y casgliad ffotograffiaeth cenedlaethol.

 

‘Ansawdd uchel’ ac ‘ysbrydoledig’ oedd rhai o’r geiriau a ddefnyddiodd y panel i ddisgrifio gwaith y tri ffotograffydd ifanc buddugol. Gweithiodd y tri mewn lleoliadau annisgwyl ond trawiadol. Mae pob ffotograff yn adrodd stori bersonol gadarn am yr eisteddwyr.

 

Tynnwyd ffotograff y Prif Weinidog, Rhodri Morgan AC yn nepo Bws Caerdydd, sef cyfeiriad at un o bolisïau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn blynyddoedd diweddar. Dewisodd Siân Lloyd Eryri – un o’i hoff lleoliadau yng Nghymru – fel lleoliad ar gyfer ei phortread hithau. A thynnwyd llun Giggs yn Carrington, canolfan hyfforddi Manchester United ar y diwrnod pan lofnododd y seren gontract am flwyddyn arall gyda’r clwb yr ymunodd ag ef fel llanc ifanc.

 

Meddai Beth McIntyre, Curadur Printiau a Darluniau Amgueddfa Cymru:

 

“Mae Amgueddfa Cymru wrth ei bodd ar y delweddau trawiadol hyn. Roedd yr ymateb gan ffotograffwyr oedd wedi graddio’n ddiweddar yn wych eleni, ac mae’r canlyniadau’n arbennig iawn. Byddwn ni’n croesawu’r ffotograffau hyn i’r casgliad ac mae’n si?r y byddant yn boblogaidd iawn ymysg ein hymwelwyr. Mae’r comisiwn yn mynd o nerth i nerth.” 

 

Bydd copïau o’r delweddau yn mynd i gasgliad yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.

 

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru,  Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

 

Ceir mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Diwedd 

Nodiadau i Olygyddion

 

Y ffotograffwyr

Huw Davies

 

Magwyd Huw Davies yn Sir Gâr. Graddiodd o Goleg Sir Gâr yn 2006 ac enillodd wobr Myfyriwr Ffotograffiaeth y Flwyddyn AOP. Dewisodd depo bysiau Caerdydd fel lleoliad ar gyfer y portread hwn, er mwyn cyfeirio at un o bolisïau allweddol Morgan, sef cyflwyno pasiau bws am ddim i bobl dros 65 oed a phobl ag anableddau. Mae’r ddelwedd yn archwilio’r cysyniad o deithio ac amser.

 

Anastasia Taylor-Lind

 

Ers graddio o Brifysgol Cymru, Casnewydd yn 2004, mae gwaith Anastasia Taylor-Lind wedi ymddangos mewn papurau newydd a chylchgronau cenedlaethol, fel The Guardian, Sunday Times a Marie Claire. Aeth i dynnu llun Giggs yng nghanolfan ymarfer Manchester United ar y diwrnod pan lofnododd gontract pellach gyda’r clwb.

 

Amelia Kilvington

 

Cafodd Amelia Kilvington radd mewn Saesneg cyn graddio o Ysgol Celfyddydau Gorllewin Cymru, Caerfyrddin, yn 2006. Mae ei gwaith yn archwilio’r cysylltiadau rhwng delweddau a thestun ysgrifenedig. Dewis Siân Lloyd oedd tynnu’r llun yn Eryri.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â

Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol

Amgueddfa Cymru

(029) 2057 3175 / 07812 801356

Sian.james@amgueddfacymru.ac.uk