Datganiadau i'r Wasg

Adfent gyda'r Artist Aneurin

Arwyddo llyfr Aneurin Jones yn Amgueddfa Wlân Cymru

Yn artist sy’n enwog am ei gariad tuag at gefn gwlad a phobl Gorllewin Cymru, bydd Aneurin Jones yn arwyddo copïau o’i lyfr newydd ‘Byd Aneurin’ gan Gwasg Lolfa yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ar 13 Rhagfyr 2007.

 

Mae’r hunangofiant yn cynnwys straeon ac atgofion o lefydd a phobl wnaeth ddylanwadu arno drwy ei yrfa. Er mwyn rhoi golwg fanylach ar ei fywyd fel artist, bydd hefyd esiamplau o’i waith yn yr Amgueddfa Wlân.  

 

Anogir ymwelwyr i gyrraedd erbyn 7pm er mwyn manteisio ar y cyfle i wneud ychydig o siopa Nadolig yn siop yr Amgueddfa – ffordd wahanol i brynu’ch anrhegion drwy gydol Rhagfyr - a mwynhyau tamaid i fwyta yng Nghaffi’r Gorlan tan 9pm.

 

Dywedodd Ann Whittall, Rheolwr Amgueddfa: “Rydyn ni’n ffodus iawn bod Aneurin Jones, sydd wedi arddangos ei weithiau mewn galerïau yng Nghymru, Llundain, ac America gydag enghreifftiau o’i weithiau mewn casgliadau preifat mewn lleoliadau fel Canada a’r Iseldiroedd yn helpu ni ddathlu’r Nadolig eleni.” 

 

Bydd dathliadau’r Amgueddfa’n dechrau ar 1 Rhagfyr gyda Ffair Grefftau’r Nadolig o 10am – 5pm, gan roi cyfle i ymwelwyr i ffeindio’r anrheg Nadolig unigryw hwnnw.  

 

Bydd y cogydd, Nerys Howell yn rhannu syniadau yngl?n â sut i baratoi danteithion Nadolig ar 6 Rhagfyr am 7pm. Pris y tocynnau yw £5 a gellid eu prynu o flaen llaw drwy ffonio 01559 370929. Yn ogystal, cynhelir Cinio Nadolig ar 5 a 12 Rhagfyr ond rhaid bwcio o flaen llaw a gweinir rholiau twrci cynnes yn y caffi drwy gydol y mis.

 

Bydd Sïon Corn yn ymuno yn yr hwyl ar 15 Rhagfyr (10am - 5pm) a chynhelir Gweithdy Crefftau Tymhorol ar gyfer y plant.

 

Ym mis Rhagfyr, gall y teulu fwynhau gweithgareddau’r Cert Celf ac ar ôl cwblhau’r gweithgaredd, ymweld â Chaffi’r Gorlan fydd yn cynnig danteithion yr ?yl drwy gydol y mis.

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.