Datganiadau i'r Wasg

Sul y Pwdin

Sul y Pwdin - y dydd Sul olaf cyn Adfent - yw’r amser i baratoi’ch pwdinau Nadolig. Dewch i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar 25 Tachwedd 2007 a chymerwch ran mewn cymysgu’r cynhwysion yn y modd traddodiadol Cymreig. 

Oeddech chi’n gwybod fod pwdin Nadolig go iawn yn cael ei chymysgu o gyfeiriad y Dwyrain i’r Gorllewin i anrhydeddu’r tri gwr doeth? Yn draddodiadol, fe wneir pwdin Nadolig gan ddefnyddio 13 o gynhwysion er mwyn cynrychioli Crist a’i ddisgyblion ac mae gofyn i bob aelod o’r teulu gymysgu’r pwdin a gwneud dymuniad cudd.

 

Dyma rai o’r traddodiadau fydd John Haydn o Lanilltud Fawr yn rhannu gydag ymwelwyr wrth arddangos sut i baratoi pwdinau Nadolig yn Ffermdy Llwyn-yr-Eos ar ddydd Sul rhwng 11 y bore a 1 y prynhawn, a 2 - 4 y prynhawn.

 

Gan ddefnyddio cynhwysion a roddwyd gan Tesco, Croes Cwrlwys, bydd John Haydn yn paratoi’r pwdinau ar ddydd Sul gyda help ymwelwyr ac ar ôl eu coginio, yn eu rhoi i Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd. 

 

Mae mynediad i’r Amgueddfa ac i’r digwyddiad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a cheir rhagor o wybodaeth yngl?n a sut mae Sain Ffagan yn dathlu’r Nadolig ar www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diwedd

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3486 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

 

 

Nodiadau i’r golygydd:

 

Dyma rhai o’r ffyrdd eraill bydd Sain Ffagan yn dathlu’r Nadolig:

 

  • Paratoi ar gyfer y Gwyliau 1 Rhagfyr 2007

(Gwneud addurniadau ar gyfer y goeden Nadolig, am ddim ac i deuluoedd)

 

  • Y Gwyliau ar 5, 6 a 7 Rhagfyr rhwng 6pm a 9pm 

(Dathlu’r Nadolig gyda charolau, bandiau, adloniant i’r plant ac ati)