Datganiadau i'r Wasg

Ar y lechen yn y Ffair Gaeaf

Hwyl ‘ar y lechen’ y Nadolig yma!

Ffair Gaeaf: 2 Rhagfyr 2007

Os am ddipyn o hwyl i ddechrau’r nadolig yna dewch draw i Amguedda Lechi Cymru Llanberis ar 2 Rhagfyr rhwng 11 am a 4 pm.

Bydd Sion Corn yn cyrraedd ar injan yr Amgueddfa – sef UNA – am 11 am ac yna yn gweld plantos yn ei grotto arbennig. Yn ogystal, bydd llu o weithgareddau arbennig gan gynnwys sioeau hud gan y dewin Howard Hughes, sioeau bypedau, dweud storiau gyda Mari Gwilym a cherddoriaeth gan Seindorf arian Deiniolen.  

“Mae’r Ffair Gaeaf yn gyfle gwych i groesawu tymor gaeaf a chfnod y Nadolig", meddai Julie Williams, Swyddog Marchnata’r Amgueddfa.  “ Mae’n gyfle i ni ddiolch i bobl lleol am eu cefnogaeth drwy’r tymor, ac i atgoffa pobol ein bod ar agor drwy’r gaeaf iddyn nhw gael dod am dro. Bydd holl atyniadau’r Amgueddfa ar agor."

 “Bydd Sion Corn yn cyrraedd ar dren am 11 am ac yna bydd yn ei grotto hyd at 3.45 pm yn sgwrsio gyda’r holl blant sydd wedi dod i’w weld ac i roi anrheg arbennig iddyn nhw."

Hefyd mae blwch post arbennig yma, i blant bostio eu llythyrau at Sion Corn – a bydd Sion Corn yn brysur wedi’r Ffair yn ymateb iddyn nhw i gyd!

Mae’r digwyddiadau i gyd AM DDIM, ond mae taliad bychain i weld Sion Corn ac i wneud y crefftau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r Amgueddfa ar (01286) 870630 neu e-bost ar llechi@amgueddfacymru.ac.uk

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau 07.

Am wybodaeth y wasg cysylltwch a Julie Williams on (01286) 873 707 julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk