Datganiadau i'r Wasg

Gwisgoedd o'r graig

CAIFF rhyfeddodau microsgopig byd natur eu datgelu fel rhan o arddangosfa newydd sbon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 23 Tachwedd.

 

Bydd FFURFIANT: Mawrygu Mwynau, a fydd yn rhedeg tan 6 Ebrill, yn dipyn o berl, gyda chyfuniad hynod o ffotograffiaeth, daeareg a thechnoleg.

Y canlyniad yw delweddau lliwgar trawiadol o dafelli o fwynau chwyddedig. Mae’r patrymau hyfryd, sy’n gudd i’r llygad noeth fel arfer, wedi cael eu trosglwyddo i ddeunyddiau a ffabrig er mwyn creu ffrogiau, rygiau, teils a chrogluniau.

Yn ogystal, mae’r arddangosfa’n edrych ar ffurfiant mwynau a chreigiau Cymreig; sut aed ati i greu’r delweddau; a’r prosesau cynhyrchu sy’n eu troi’n ddeunyddiau i’w defnyddio mewn pensaernïaeth a dylunio.

Y tu ôl i’r arddangosfa mae’r Athro Richard Weston o Brifysgol Caerdydd:

“Mae’r delweddau a grëir wrth sganio’r mwynau â chydraniad uchel yn anghredadwy,” meddai’r Athro Weston. “Mae llawer ohonynt yn edrych fel campweithiau celf. Maen nhw i gyd wedi bod yn gudd ers milenia – ac yn cael eu datgelu nawr am y tro cyntaf diolch i’r dechnoleg ddigidol.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, ffoniwch Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata ar 01792 638970 neu e-bostiwch fay.harris@amgueddfacymru.ac.uk