Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa ar thema caethwasiaeth yn ennill gwobr flaenllaw

Mae staff Amgueddfa Cymru a chyrff treftadaeth eraill ledled Cymru’n dathlu ar ôl i’r project Traed mewn Cyffion ennill gwobr flaenllaw.


Dewisodd y Black History Foundation, sydd â’u pencadlys yn Birmingham, arddangosfa Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar Gymru a chaethwasiaeth, ynghyd â’r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gwaith yn y gymuned oedd yn cyd-fynd â hi fel “y cyfraniad gorau at dreftadaeth y bobl dduon yng Nghymru yn 2007”. Caiff y wobr ei chyflwyno yn Ffair Treftadaeth Pobl Dduon ym Mhrydain ddydd Sadwrn. Dewisodd y sefydliad y project yma am ei fod yn gwneud ymdrech arbennig i wneud treftadaeth y bobl dduon yn fwy hygyrch.

 

Mae’r arddangosfa’n dathlu dau gan mlynedd ers pasio’r Ddeddf Diddymu Caethwasiaeth ym 1807 trwy edrych ar rôl Cymru wrth wrthwynebu a chynnal caethwasiaeth trawsiwerydd yn ystod y tair canrif blaenorol. Helpodd hefyd i dynnu sylw at hawliau dynol a masnach deg, ac esbonio etifeddiaeth caethwasiaeth mewn cerddoriaeth fodern ac mewn diwylliant poblogaidd. Cynhaliwyd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, sgyrsiau a pherfformiadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe i gyd-fynd â’r arddangosfa.  

 

Mae tri fersiwn teithio o’r arddangosfa ar daith o gwmpas llyfrgelloedd ac amgueddfeydd ledled Cymru a byddant i’w gweld yn Llanrwst a Wrecsam yn y flwyddyn newydd.

 

Yn gynharach eleni, derbyniodd Tîm Dysgu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros £43,000 o gronfa Dreftadaeth y Loteri i helpu i ddatblygu’r project Traed mewn Cyffion. O ganlyniad, mae cyfres o weithdai celf, sgyrsiau treftadaeth ac ymweliadau’n digwydd mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol, sefydliadau ac amgueddfeydd ar draws Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd. 

 

Cododd Traed mewn Cyffion o bartneriaeth a gychwynnwyd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i cyflwynwyd gan Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru, Bangor. 

 

Dywedodd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodri Glyn Thomas ei fod yn falch fod y project wedi cael ei ddewis ar gyfer y wobr. Meddai: “Dyma deyrnged go iawn i rym gweithio mewn partneriaeth ac rwy’n falch y bu modd i Lywodraeth Cynulliad Cymru chwarae rhan wrth ddatblygu’r project ac wrth weithio mewn partneriaeth i gynhyrchu’r fersiwn deithiol o’r arddangosfa, a fydd yn mynd â’r testun hynod bwysig yma allan at gynulleidfaoedd ledled Cymru.”

 

Roedd Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, wrth ei fodd hefyd ac meddai: “Mae’r wobr yn cydnabod gwaith caled yr holl bartneriaid yn ogystal ag ymrwymiad cyrff treftadaeth cenedlaethol yng Nghymru i ddehongli pynciau anodd mewn ffordd hygyrch a deinamig. “

 

Ychwanegodd Jennifer Stewart, Rheolwr CDL Cymru:

“Ychydig iawn o bobl sy’n gwybod am y gysylltiad Cymru â chaethwasiaeth a’r diwydiant caethweision. Mae’r project Traed mewn Cyffion yn ffordd bwysig ac effeithiol i bobl yng Nghymru ddysgu am ran o’u treftadaeth sy’n cael ei anghofio mor aml. Mae’n gyffrous gweld sut mae etifeddiaeth y fasnach caethweision yn dal i gael effaith ar ddiwylliant pobl ifanc heddiw, sy’n golygu bod hwn yn gyfrwng gwych ar gyfer treftadaeth Cymru. Mae’r wobr yma’n bluen yn het y project, ac yn un haeddiannol iawn. Rydyn ni wrth ein bodd bod project Traed mewn Cyffion Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi cael cydnabyddiaeth ar y lefel yma.”

 

 I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, ffoniwch Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata ar  01792 638970 neu e-bostiwch fay.harris@amgueddfacymru.ac.uk