Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru - Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

10am, dydd Iau, 13 Rhagfyr 2007
Ystafell y Llys, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Is-Lywydd, Trysorydd a chwe Ymddiriedolwr newydd ar gyfer corff llywodraethol yr amgueddfeydd cenedlaethol.

Bydd dau o'r Ymddiriedolwyr presennol - Elisabeth Elias a Peter Morgan - yn dechrau yn eu swyddogaethau newydd fel Is-Lywydd a Thrysorydd yr elusen yng nghyfarfod chwarterol nesaf Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru.

Bydd chwe Ymddiriedolwr newydd yn ymuno â nhw; y newid mwyaf yn aelodaeth y Bwrdd 16 aelod yn y blynyddoedd diweddar. Yr Ymddiriedolwyr newydd yw Carole-Anne Davies, yr Athro Emeritws Richard Gareth Wyn Jones, Miriam Griffiths, Christina Macaulay, yr Athro Jonathan Osmond a Dr Haydn Edwards. Bydd telerau eu penodiad yn rhedeg o 1 Tachwedd 2007 hyd at 31 Hydref 2011.

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw corff gweithredol Amgueddfa Cymru sy'n gyfrifol am reoli a gweinyddu cyllid ac eiddo'r Amgueddfeydd. Mae ganddo'r awdurdod i benderfynu ar unrhyw fater sy'n ymwneud â materion yr Amgueddfeydd.

Mae cyfarfodydd chwarterol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar agor i'r cyhoedd. Cynhelir y cyfarfod agored nesaf am 10.00am ar ddydd Iau 13 Rhagfyr yn Ystafell y Llys yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd.

Dywed Llywydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Paul Loveluck, bod cynnal cyfarfodydd Bwrdd agored yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ddysgu mwy yngl?n â sut mae'r saith amgueddfa genedlaethol yn gweithio, yn aml mewn partneriaeth â chyrff eraill yng Nghymru a thu hwnt.

“Yn unol â dyhead y bwrdd i fod yn agored a thryloyw wrth wneud penderfyniadau, rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd i ddod i weld yr Ymddiriedolwyr yn delio ag amrywiaeth o bynciau a materion”, meddai.

Mae mynediad i safleodd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Dylai aelodau o'r cyhoedd sydd am fynychu cyfarfod Bwrdd Amgueddfa Cymru gysylltu â Tony Lloyd, Pennaeth Gweinyddu, 029 20573285, tony.lloyd@amgueddfacymru.ac.uk

DIWEDD

Dylai'r Wasg a'r Cyfryngau gysylltu â Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu,

029 20573162, robin.gwyn@amgueddfacymru.ac.uk

Nodyn i Olygyddion:

Elisabeth Elias MA DL
Ymddiriedolwr (Is-Lywydd)

Astudiodd Elisabeth Elias y Gyfraith yng ngholeg St Hilda, Rhydychen, a chymhwysodd ei hun i fod yn fargyfreithiwr; mae'n Gadeirydd Cyngor y Girls' Day School Trust (sefydliad sy'n gyfrifol am 26 o ysgolion annibynnol i ferched ac un o'r elusennau mwyaf yn y DU); Cadeirydd Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru; gweithredodd fel ynad am 18 mlynedd; aelod (a benodwyd o Gymru) o Bwyllgor Ymgynghorol Nawdd Cymdeithasol 1996-2005; bu'n Gadeirydd Pwyllgor Lleol Moesoldeb Ymchwil ac aelod anweithredol Bwrdd Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Cyffredin Cymru rhwng 1995-1999; mae'n byw yng Nghaerdydd.

J Peter W Morgan M.Sc. F.C.A.
Ymddiriedolwr (Trysorydd)

Cyn Gadeirydd a Phrif Weithredwr cynhyrchwyr naddion dur mwya'r byd, penodwyd Peter fel Ymddiriedolwr ar 1 Ionawr 2007 a bydd yn dechrau yn ei swyddogaeth fel Trysorydd yn Hydref 2007.

Ganwyd Peter ym Mhenarth, a chymhwysodd ei hun fel Cyfrifydd Siartredig ym 1970 ac ar ôl cymryd MBA, dilynodd yrfa oedd yn cynnwys Bancio Masnachol, gwasanaethau Olew Môr y Gogledd a Thecstilau. Yn yr 1970au hwyr dychwelodd Peter i Gymru i ymuno â Catnic Lintels ac ar ôl i Gorfforaeth Rio Tinto ei brynu, daeth yn Brif Weithredwr ac yna'n Gyfarwyddwr i'r gr?p cwmniau Catnic.

Yn ystod ei yrfa bu Peter yn gyfarwyddwr anweithredol nifer o gyrff masnachol a'r Building Research Establishment yn ystod ei breifateiddio. Gweithredodd fel Ymddiriedolwr y Community Development Foundation, cyfarwyddwr Coleg Technegol Morgannwg Ganol, G?yl Gerddi Cymru, Busnes yn y Gymuned, ac mae'n aelod o Bwyllgor Cymru Mudiad Caeau Chwarae Cenedlaethol ers 1997. Daeth yn Rhyddfreiniwr Dinas Llundain ym 1997. Mae Peter wedi bod yn aelod o Bwyllgor Archwilio Amgueddfa Cymru ers 2001 ac yn Gadeirydd ers 2005.

Carole-Anne Davies

Carole-Anne Davies yw Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru. Cyn hynny, bu'n Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Celfyddydau Bae Caerdydd, a Swyddog Comisiynau'r Ymddiriedolaeth. Yn ogystal â'i gweithgareddau proffesiynol uniongyrchol, mae ei diddordebau eraill yn cynnwys swyddi fel Cadeirydd Cyntaf mes:a (y sefydliad sy'n gweithredu fel adnodd ar gyfer artistiaid annibynnol yn y maes perfformio), Cymrawd Oes i'r Sefydliad Materion Cymreig ac aelod o banel ymgynghorol Ysgol Celf a Dylunio Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Mae'n frwd dros arwyddocâd diwylliant poblogaidd ac enillodd wobr Cymraes y Flwyddyn: Y Celfyddydau a'r Cyfryngau yn 2005.

Christina Macaulay

Mae Christina Macaulay wedi bod yn Uwch Gynhyrchydd Rhaglenni Ffeithiol BBC Cymru ers 2001, lle bu'n gyfrifol am raglenni fel Iolo's Welsh Safari, Weatherman Walking a Saving Planet Earth. Rhwng 1999 a 2007, bu'n un o Ymddiriedolwyr Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban. Mae ganddi gefndir academaidd mewn Hanes ac Archaeoleg, ac mae'n ymwelydd cyson ag amgueddfeydd.

Yr Athro Emeritws Richard Gareth Wyn Jones

Mae Gareth Wyn Jones wedi bod yn Ddarlithydd, yn Uwch Ddarlithydd, yn Ddarllenydd ac yn Athro yn Ysgolion Gwyddorau Biolegol ac Amaethyddol a Gwyddorau'r Goedwig ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac am sawl blwyddyn bu'n Gyfarwyddwr y CAZS-NR (Canolfan Astudiaethau Parthau Sych - Adnoddau Naturiol). Ymysg ei swyddi blaenorol mae Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Datblygu Polisi Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Rheolwr, Cadeirydd ac ymgynghorydd Rhyngwladol Adran Ddatblygu Rhyngwladol y DU.

Mae e wedi gwasanaethu'r Cyngor Prydeinig a'r Comisiwn Ewropeaidd mewn sawl ffordd hefyd, fel aelod o Bwyllgor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch a Fforwm Gwledig Cymru. Mae ei gefndir academaidd ym myd y gwyddorau natur a daear. Mae e wedi ysgrifennu neu gyd-ysgrifennu tua 180 o bapurau gwyddonol yn Gymraeg a Saesneg.

Miriam Hazel Griffiths MA

Mae Miriam Hazel Griffiths yn ymchwilydd annibynnol ac yn ymgynghorydd ym maes addysg ac mae hi wedi gweithio gyda chleientiaid yng Nghymru, Prydain a'r tu hwnt. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Pennaeth Addysg Barhaus Prifysgol Cymru, Bangor a Chyfarwyddwr Datblygu Dysgu ELWa.

Mae hi wedi gwasanaethu fel Cadeirydd anrhydeddus etholedig ac aelod o fwrdd nifer o gyrff elusennol. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio yn y sector gwirfoddol ac mae ganddi 25 mlynedd o brofiad ym maes addysg uwch, bellach ac addysg oedolion ac mae ganddi ddiddordeb personol brwd mewn arddangosfeydd a chasgliadau.

Yr Athro Jonathan Osmond

Penodwyd yr Athro Jonathan Osmond yn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar ar ôl bod yn Bennaeth Ysgol Hanes ac Archaeoleg y Brifysgol am ddeng mlynedd. Trwy waith ei gydweithwyr cafodd gipolwg ar sawl agwedd ar hanes ac archaeoleg Cymru. Mae ei waith ymchwil ei hun mewn blynyddoedd diweddar wedi canolbwyntio ar gelfyddydau gweledol yr Almaen fodern, sydd wedi ei gynefino â phynciau llosg o ran casglu ac arddangos.

Mae ganddo wybodaeth helaeth am amgueddfeydd ac orielau yn Ewrop a Gogledd America, a fydd o gymorth i Amgueddfa Cymru gyda'r cynlluniau i greu Amgueddfa Gelf Cymru ar lawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r dyhead tymor-hir i greu Oriel Genedlaethol i Gymru.

Dr Haydn Edwards

Dr Haydn Edwards yw Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Menai, un o brif Golegau Addysg Bellach Cymru. Enillodd Ddoethuriaeth ym maes biocemeg ac ymbelydredd, a threuliodd dair blynedd yn y 1970au fel cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Notre Dame, Indiana, cyn dod yn Uwch Wyddonydd Ymchwil yn Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru.

Bu'n Bennaeth Coleg Pencraig a Choleg Technegol Gwynedd cyn cychwyn yn ei swydd bresennol ym 1994. Cafodd nifer o benodiadau cyhoeddus, gan gynnwys aelodaeth o ELWa a Gr?p y Fargen Newydd yng Nghymru. Daw Dr Edwards â gwybodaeth helaeth am addysg yng Nghymru gydag ef ynghyd ag amrywiaeth eang o ddiddordebau sy'n berthnasol i waith yr Amgueddfa.

Paul E Loveluck CBE, JP

Fel cyn Brif Weithredwr Bwrdd Croeso Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, derbyniodd Paul Loveluck swydd Llywydd AOCC yn Hydref 2002 am gyfnod o bum mlynedd. Fe yw Pennaeth a Phrif Swyddog yr Amgueddfa, sy'n cynnig cyfeiriad ac arweinyddiaeth i'r Cyngor, sef corff gweithredol AOCC sy'n gyfrifol am reolaeth yr Amgueddfa.

Cafodd Paul Loveluck ei eni a'i fagu ym Maesteg, ac ar ôl graddio o Brifysgol Cymru, Caerdydd, ymunodd â'r Swyddfa Gymreig ym 1969 o'r Bwrdd Masnach, Llundain. Bu'n Brif Weithredwr dros dro ar Fwrdd Croeso Cymru yn ystod cyfnod o ad-drefnu ym 1984. Fe'i penodwyd i'r swydd yn barhaol yn ddiweddarach ac enillodd y CBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i'r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru.

Daeth Paul Loveluck yn Brif Weithredwr ar Gyngor Celf Gwlad Cymru yn Ionawr 1996, a chymrodd ei ymddeoliad o'r swydd yn Chwefror 2002. Gan weithio'n bennaf o Bencadlys y Cyngor Cefn Gwlad ym Mangor, bu wrthi yn ystod ei 6 mlynedd yn y swydd yn ceisio amddiffyn a gwella amgylchedd naturiol Cymru a'i wneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd. Gwelodd y cyfnod hwnnw ddatblygiad a chyflwyniad y cynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal.

Mae ganddo gysylltiad hir â gwaith Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a, y bu'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Archaeoleg yn ystod y 1980au ac yn cynrychioli BCC a CCC ar Lys AOCC. Bu'n aelod o Ymddiriedolaeth Graham Sutherland - Castell Picton a chwaraeodd ran wrth drosglwyddo Casgliad Sutherland i'r Amgueddfa.