Datganiadau i'r Wasg
Dathlu cynllun adfywio arobryn
Dyddiad:
2007-12-10Mae project adfywio sy’n defnyddio tua 75% o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu neu wedi eu hadfer i greu amgylchedd deniadol ac addysgiadol o’r enw llwybr Tomen y Coety sy’n cysylltu Big Pit â Rheilffordd Pont-y-p?l a Blaenafon a Llynnoedd y Garn wedi ennill gwobr BALI (cymdeithas diwydiannau tirweddu Prydain).
I ddathlu llwybr newydd Tomen y Coety, bydd Big Pit, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Rheilffordd Pont-y-p?l a Blaenafon yn cynnal digwyddiad arbennig ddydd Mercher, 12 Rhagfyr.
Datblygwyd y llwybr gan Big Pit, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Rheilffordd Pont-y-p?l a Blaenafon, ac fe’i rheolir gan Blakedown Landscapes (Operations) Cyf. Fe’i ariannwyd gan Fenter Blaenau’r Cymoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Adran yr Economi a Thrafnidiaeth.
Mae’r llwybr natur yn cynnwys llwybr pren o gwmpas llyn y domen, paneli dehongli a thaflen am y llwybr. Mae hyn yn agor ardal oedd gynt yn anodd ei chyrraedd. Fe’i lansiwyd ym Mehefin 2007 ac mae’r llwybr wedi bod yn boblogaidd ymysg ymwelwyr a phobl leol drwy gydol yr haf a’r hydref.
Cynhelir y digwyddiad am 10.30am ddydd Mercher 12 Rhagfyr yng Nghantîm y Glowyr, Big Pit, lle bydd David Spencer o Gymdeithas Diwydiannau Tirweddu Prydain yn cyflwyno’r wobr yn ffurfiol i Peter Walker, Rheolwr Big Pit.
- Diwedd -
I gael rhagor o wybodaeth a ffotograffau ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â :
Kathryn Stowers, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru
(01495) 796416 / 07970 017210
Kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk