Datganiadau i'r Wasg

Gwreiddiau: canfod y Gymru Gynnar

‘Y Ddynes Goch’ o Gymru yn heneiddio 4,000 o flynyddoedd mewn gwaith ymchwil newydd.  

 

Claddedigaeth ddynol ffurfiol gyntaf Gorllewin Ewrop - uchafbwynt orielau archeoleg newydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Ar ddangos am y tro cyntaf yng Nghymru. 

Ail-ddyddiwyd claddedigaeth ddynol ffurfiol gynharaf gorllewin Ewrop i 29,000 o flynyddoedd yn ôl, ac am y tro cyntaf ers ei darganfod ym 1823, caiff gweddillion ‘Dynes Goch Pen-y-fai’ eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Sadwrn, 8 Rhagfyr 2007 ymlaen yn Gwreiddiau: canfod y Gymru Gynnar. Mae’r gweddillion ar fenthyg gan Amgueddfa Hanes Natur Rhydychen am flwyddyn.

 

William Buckland, Athro Daeareg o Brifysgol Rhydychen fu’n gyfrifol am ddarganfod y gweddillion yn Ogof Twll yr Afr, Pen-y-fai ar Benrhyn G?yr, ym 1823. Sgerbwd dyn ifanc yw hwn a dweud y gwir, a daw’r enw o’r ocr coch oedd yn gorchuddio’r esgyrn. Mae gwaith dyddio newydd, yng ngofal Dr Thomas Higham o Uned Dyddio Radiocarbon Prifysgol Rhydychen, a Dr Roger Jacobi o’r Amgueddfa Brydeinig, wedi dangos bod yr olion 4,000 o flynyddoedd yn h?n na’r gred flaenorol – yn 29,000 o flynyddoedd oed – sy’n golygu mai dyma oedd claddedigaeth seremonïol hynaf gorllewin Ewrop, tua naw gwaith yn h?n na’r ffaro  Eifftaidd, Tutankhamun.

 

Ymhlith uchafbwyntiau eraill Gwreiddiau mae’r dystiolaeth gyntaf o arddull gelf dau-ddimensiwn yng Nghymru – carreg Bryn Celli Ddu o Fôn; patrymau diamser mewn aur o Gymru’r Oes Efydd, fel breichledi Capel Isaf a chrogaddurn celc Burton; un o wrthrychau haearn cynhanesyddol gorau gorllewin Ewrop, brigwn Capel Garmon – mynegiant afradlon o fri a buddsoddiad yn yr Oes Haearn a champwaith o waith gof Celtaidd; cwpan y Fenni, enghraifft drawiadol o grefftwaith Rhufeinig clasurol â’i glust ar ffurf llewpard brith (o’r ganrif gyntaf neu’r ail ganrif OC) – tystiolaeth syfrdanol o effaith ddiwylliannol ac economaidd y goresgyniad Rhufeinig; dyrnfol cleddyf Smalls, a addurnwyd yn yr arddull gelf Lychlynnaidd ddiweddaraf ac a gollwyd yn y môr 16 milltir oddi ar arfordir Sir Benfro tua 1125-50 OC; a chrair prin o gyfnod y Diwygiad – ffigur peintiedig Crist o’r 13eg ganrif o grog (croes) a ddarganfuwyd ynghudd y tu ôl i wal ar y grisiau i’r groglofft yn Eglwys Cemaes, Sir Fynwy, yn y 19eg ganrif.

 

Yn ôl Dr Mark Redknap o’r Adran Archeoleg a Niwmismateg:

 

“Dim ond detholiad bach o’r llu o bethau hynod a ddarganfuwyd yng Nghymru yw’r pethau a  ddewiswyd i’w harddangos. Mae tri degawd o ddarganfyddiadau ac ymchwil newydd wedi mynd heibio ers agor yr hen orielau yn y 1970au, yn ogystal â datblygiadau yn y ffordd y mae amgueddfeydd yn cyfathrebu â’u cynulleidfaoedd. Mae’r casgliadau a’u dehongliad diwygiedig – llawn cyfoeth a gwybodaeth – yn ein helpu ni i ddeall ein hunain, a’r Gymru sydd ohoni.”

 

Bydd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar bobl a newid, a chaiff ei pherthnasedd i’r byd modern ei esbonio’n weledol. Bydd presenoldeb deinamig i’r gorffennol fel sbardun ar gyfer creadigrwydd – celf, ffotograffiaeth, cerfluniau, cerddoriaeth ac animeiddio – yn yr oriel hefyd, a bydd hyn yn cynnwys gweithiau newydd a gomisiynwyd ar gyfer yr arddangosfa.

 

-Diwedd-

 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag

Emma Cunningham (0208) 516 2646 / emmalcunnigham@aol.com neu

Siân James, y Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol ar (029) 2057 3175 / sian.james@amgueddfacymru.ac.uk