Datganiadau i'r Wasg

Y Clwb Garddio, yn null y Rhufeiniaid

Os ydych chi’n ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru dros y misoedd nesaf, cewch gyfle i weld atyniad newydd sydd ar y gweill. Yr wythnos yma, bydd gwaith yn dechrau ar ardd Rufeinig newydd yn yr Amgueddfa sydd wrth galon tref Rufeinig Caerllion.

Bydd yr ardd yn ymgorffori elfennau traddodiadol o ddyluniad Rhufeinig, wedi eu hysbrydoli gan erddi Rhufeinig o bob rhan o’r Ymerodraeth fel deildy, gwelyau blodau addurnol, allor, perthi bocs a ffresgos.

 

Meddai Dai Price, Rheolwr yr Amgueddfa:

“Rydyn ni wedi bod yn edrych ymlaen at ddechrau gwaith ar yr Ardd Rufeinig ers amser, ac rydyn ni wrthi’n datblygu amrywiaeth o adnoddau a dehongliadau i helpu ymwelwyr i ddysgu rhagor am arddwriaeth Rufeinig a’i defnydd mewn bywyd pob dydd.

 

“Y rhan gyntaf o’r gwaith fydd plannu 22 o gypreswydd dros y gaeaf, cyn mynd ati i osod llwybrau newydd, peintio ffresgos a phlannu’r ardd yn y gwanwyn.

 

“Bydd yr Ardd Rufeinig yn creu cefndir newydd ar gyfer llawer o’r gweithgareddau a gynhelir yn yr Amgueddfa trwy gydol y flwyddyn.” 

 

Bydd yr Ardd Rufeinig yn agored i’r cyhoedd erbyn haf 2008.

 

- Diwedd -

 

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Ceir mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

 

·      I gael rhagor o wybodaeth am yr Ardd Rufeinig, cysylltwch â Kathryn Stowers, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru.

Ffôn: (01495) 796416, ffôn poced: 07970 017210.

E-bost: Kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk.