Datganiadau i'r Wasg

Cymru ym Mharis

Cerrig Goffa Cristnogol Cymreig Cynnar yn croesi'r Sianel.

Bydd dwy gofeb ganoloesol gynnar o gasgliadau Amgueddfa Cymru yn cael eu harddangos ym Mharis heddiw (30 Medi 2008), fel rhan o arddangosfa newydd y Musée National du Moyen Âge (Amgueddfa Genedlaethol yr Oesoedd Canol).

Mae'r arddangosfa, Celts and Scandinavians: Artistic Encounters 7th-12th centuries yn archwilio datblygiadau artistig yng ngogledd a gorllewin Ewrop. Mae'n edrych ar sut y defnyddiwyd celf i gyfathrebu negeseuon a syniadau, drwy rhai o'r gwrthrychau mwyaf trawiadol o'r gwledydd Celtaidd a Sgandinafaidd.

Y ddau arddangosyn Cymreig - carreg arysgrifedig o'r 5ed neu'r 6ed ganrif o Langwyryfon, Ceredigion a chroes o'r 10fed ganrif o Baglan, Castell-nedd Port Talbot - yw dau o'r darnau pwysicaf o dystiolaeth faterol ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar. Maent yn cael eu harddangos wrth ymyl llu o wrthrychau o'r Iwerddon, Lloegr, yr Alban, Sweden a Norwy o'r un cyfnod.

Dr Mark Redknap, Curadur Archeoleg Canoloesol a Diweddarach Amgueddfa Cymru oedd yn gyfrifol am guradu'r benthyciad Ffrengig. Dywedodd:

"Rydym wrth ein boddau ein bod yn medru cyfrannu at yr arddangosfa bwysig hon, a chodi proffil un o'r rhannau hynod o dystiolaeth sydd wedi goroesi o'r Gymru ganoloesol gynnar - gwrthrychau sy'n dweud wrthym am iaith, llythrennedd, celf a chredoau'r cyfnod. Rydyn ni'n cydweithio ag amgueddfeydd yng Nghymru a'r tu hwnt ac yn rhannu'n harbenigedd a'n casgliadau fel bod cynulleidfa ehangach yn medru mwynhau archeoleg Cymru."

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru; Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.