Datganiadau i'r Wasg

Out of the Coal House

Yn ddiweddarach y mis hwn bydd ymwelwyr â Big Pit ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n cael cyfle unigryw i glywed barn teuluoedd cyfres Coal House y llynedd am brofiadau teuluoedd cyfres eleni.

Dros benwythnos 25 a 26 Hydref, bydd y teuluoedd Griffiths, Phillips a Cartwright, o gyfres eithriadol o boblogaidd 2007, yn trafod y gyfres ddiweddaraf - Coal House at War - o flaen cynulleidfa fyw.  

Er bod bywyd wedi symud yn ei flaen dros 17 o flynyddoedd, mae llawer o'r amodau byw yn debyg i 1927, cyfnod y gyfres wreiddiol. Eleni bydd y teuluoedd yn gorfod dygymod â phwysau ychwanegol dogni, cyrchoedd awyr brawychus a'r ‘blac-owts', yn ogystal â chael eu hannog i dyfu'u llysiau eu hunain, a chroesawu efaciwîs a Bois Bevin i'w cymuned. 

Meddai Ceri Thompson, Curadur Glo, Amgueddfa Cymru:  "Mae'n amlwg bod teuluoedd y llynedd wedi synnu pa mor llafurus a chaled oedd bywyd yn y cymunedau glofaol ym 1927. Cafodd y gw?r a'r meibion hynaf drafferth i ymgyfarwyddo â'r gwaith corfforol dan ddaear, tra bod y gwragedd wedi ymdopi mewn ffyrdd gwahanol â'r amodau byw elfennol.

"Bydd y digwyddiadau yma'n rhoi cyfle i'r teuluoedd o gyfres y llynedd i gydymdeimlo â chaledi byw o dan y fath amgylchiadau, ac yn rhoi cipolwg pellach o sut oedd bywyd mewn gwirionedd yn Coal House."

Arweinir y digwyddiadau gan Sara Edwards, newyddiadurwraig adnabyddus y BBC, a bydd y cyhoedd yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau i'r teuluoedd.

Cynhelir y digwyddiadau yn Big Pit ar ddydd Sadwrn 25 Hydref am 2.30pm, ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Sul 26 Hydref am 2.30pm.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad i  Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.