Datganiadau i'r Wasg

Llwyddiant staff AOCC mewn arholiadau Cymraeg!

Mae deunaw o staff AOCC wedi pasio arholiadau Cymraeg CBAC yn ddiweddar, a phob un ohonynt wedi ennill gradd 'A'. Dyma nhw:

Phil Tunnicliffe, Margaret A Williams, Arabella Smith, Jackie Chadwick, Carol Spackman, Chris Meechan, David Enright, Richard Manchip, Lisa Elliot, Julie Taylor, Sarah Greenhalgh, Julian Carter, Katrina Deering, sy'n cael gwersi gyda Colin Murphy yn AOG; Chris Perry, Mark Etheridge, Richard Davies a Judith Martin sy'n cael gwersi gyda'u tiwtor eu hunain yn Nantgarw a Sharon Ford ym Mhwll Mawr sy'n astudio mewn dosbarth allanol.

Roedd yr arholiadau'n cynnwys gwaith ysgrifennu a llafar gyda phwyslais ar siarad.

Mae dosbarthiadau yn AOG bob dydd Iau ac maen nhw'n darparu ar gyfer pob lefel. Y tiwtor yw Colin Murphy sy'n gweithio fel Gofalwr yn AWC ac yn dysgu Cymraeg i staff yn AOG ac AWC. Ar hyn o bryd mae Colin ar ganol ail flwyddyn cwrs gradd ran—amser yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Tair blynedd yn ôl, cafodd ei enwebu yng nghategori'r tiwtor Cymraeg ail—iaith gorau yng ngwobrau Coleg Digidol Cymru. O dros 100 o diwtoriaid a enwebwyd, Colin oedd un o'r tri olaf ac aeth i seremoni wobrwyo yng Ngwesty Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae e wedi dysgu Cymraeg ar ran yr Urdd, Cymdeithas yr Iaith ac wedi bod yn Gadeirydd ar bwyllgor yr Feithrin leol. Yn ei amser rhydd, mae'n llunio posau geiriau ar gyfer cylchgrawn Tafod Elái. Mae Colin wedi dysgu ei grefft fel tiwtor ei hunan ac mae e wedi bod yn dysgu grwpiau yn AOG ac AWC ers sawl blwyddyn. Mae ei gefnogaeth i'r dysgwyr yn ddi—ddiwedd ac mae eu llwyddiant yn yr arholiadau yn brawf o'r safonau uchel y mae e wedi eu gosod a'u cyflawni fel tiwtor.

Dylai unrhyw un sydd am ymuno â'r dosbarth Cymraeg ffonio'r adran Bersonél ar 3306. Byddwn ni'n helpu unrhyw un gyda'r trefniadau a'r cyllid dim ots pa lwybr maen nhw'n dewis ei ddilyn.