Datganiadau i'r Wasg

Arferion Nadolig yn deillio o gyfnod cyn Crist

Dathlu Nadolig ddoe a heddiw yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sadwrn sy'n debyg iawn i'n Siôn Corn; bwyta ac yfed; anrhegion; canhwyllau; ac addurniadau - i Rufain a'r cyfnod Rhufeinig y mae'r diolch am ein traddodiadau Nadoligaidd. Yn nigwyddiad Saturnalia Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, a gynhelir ar 13 Rhagfyr 2008, daw'r arferion hyn yn fyw ochr yn ochr â'n harferion Nadoligaidd heddiw.

Dethlir Saturnalia - g?yl fwyaf y flwyddyn Rufeinig, a Nadolig - un o ddigwyddiadau pwysicaf y calendr Cristnogol yn yr Amgueddfa o 11 y bore - 4 y prynhawn.

Dewch i gwrdd â Rhufeinwyr yn dathlu g?yl Saturnalia yn y Ganolfan Pegasus, yn rhoi anrhegion i'w gilydd, yn gwledda gyda theulu a ffrindiau ac yn gwisgo hetiau arbennig wrth y bwrdd bwyd. Bydd y gloddest yn parhau yn oriel yr Amgueddfa gyda mins peis, gwin a siocled cynnes yn ogystal â stondinau crefft yn gwerthu caws, siocled a llawer mwy.

Caiff Sadwrn, Duw amaethyddiaeth ei ddarlunio fel hen ddyn bodlon â barf gwyn, ddim yn annhebyg i Siôn Corn. Caiff Santa ei lun wedi tynnu gydag ymwelwyr i'r Amgueddfa o 12 - 1 y prynhawn a 3 - 4 y prynhawn.

Roedd y Rhufeinwyr hefyd arfer hongian blodeudorchau a choronblethau er mwyn addurno'u cartrefi'n ystod yr ?yl. Dewch i'r Amgueddfa i greu eich addurniadau'ch hunain gan gynnwys cadwyni papur er mwyn addurno'ch t? chi.

A cheisiwch guro'r milwyr Rhufeinig ar ei gemau eu hunain! Daeth gamblo'n gymaint o obsesiwn i rai Rhufeiniaid, ac yn broblem cymdeithasol cyffredin, fe'i waharddwyd gan y weriniaeth heblaw am yn ystod dathliadau Saturnalia. Petaent yn gamblo ar adegau eraill o'r flwyddyn, fe fyddant yn cael eu cosbi drwy gael eu taflu i gafn dwr oer!

"Roedd Saturnalia yn amser i roi anrhegion i ffrindiau a theulu fel y mae'r Nadolig," ychwanegodd Mark Lewis, Swyddog Curadurol, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

"Rhoddwyd canhwyllau i'w gilydd a defnyddiwyd planhigion bytholwyrdd fel celyn i addurno'r cartref.

"Roedd yn gyfnod hapus a mwy neu lai'n ?yl y banc fel y mae'r 25ain o Ragfyr heddiw. Caewyd siopau, ysgolion a llysoedd ac ni gynhelir unrhyw drafodion busnes. Byddai pawb yn stopio gweithio, hyd yn oed caethweision oedd yn eistedd drws nesaf i'w meistri a'n cael eu trin yn gyfartal am gyfnod byr!

"Dathlwyd Saturnalia'n swyddogol ar 17 Rhagfyr. Serch hynny, roedd yn gymaint o barti da byddant yn parhau â'r wledd y tu hwnt i'r un diwrnod - yn debyg i'n 12 diwrnod o Nadolig!"

Felly, dewch i fwynhau ysbryd yr ?yl gyda'r Rhufeiniad yn Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru ar 13 Rhagfyr. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda neu, fel y byddai'r Rhufeiniaid yn ei ddweud, "Io bona Saturnalia"!

Cynigir mynediad am ddim i'r digwyddiad a'r Amgueddfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.