Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa sy'n cynnig mwy

Dwy oriel newydd eu hailwampio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn agor i'r cyhoedd i gwblhau'r broses o ail-osod celf o Gymru cyn 1950.

Caiff ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fwynhau rhagor o drysorau celf Cymru'r Nadolig hwn gydag agoriad dwy oriel newydd heddiw (dydd Mawrth 16 Rhagfyr 2008), sy'n canolbwyntio ar bortreadau o bobl o Gymru a chelf o Oes Fictoria.

Bydd 'Pobl, Pwysigion, P?er: Wynebau Cymru 1800-2000' yn edrych ar gynrychiolaeth rhai o fawrion Cymru dros y 200 mlynedd ddiwethaf ac mae 'Celf ym Mhrydain Oes Fictoria' yn archwilio celf Brydeinig rhwng 1830 a 1880. Bydd y ddwy'n cynnwys gweithiau sydd erioed wedi cael eu harddangos yn yr Amgueddfa o'r blaen yn ogystal â darnau mwy cyfarwydd mewn amgylchiadau gwahanol.

Yn arddangosfa newidiol sy'n cynnwys portreadau o bobl a glodforir am eu cyfraniad at ddiwylliant, gwleidyddiaeth ac economi yng Nghymru, mae 'Pobl, Pwysigion, P?er: Wynebau Cymru 1800-2000' yn cynnwys portread yr artist Hwngaraidd Karoly Marko o Adelina Patti (1843-1919). Roedd Patti, a ymgartrefodd yn ardal Abertawe, yn un o gantorion cyfoethoga'r Byd, ac yn enwog am ei phrydferthwch yn ogystal â'i llais. Caiff ei phortreadu mewn gwisg sglefrio. Yn ei bortread o'i ffrind Dylan Thomas, mae Alfred Janes yn defnyddio'r dechneg o wneud toriadau llinellol ar yr arwyneb â chyllell boced er mwyn creu darlun mwy ffurfiol.

Mae'r oriel yn adlewyrchu cyfnod rhwng 1800 a 2000 pan nad tirfeddianwyr a chlerigwyr yn unig allai fforddio comisiynu portreadau, ac roedd artistiaid yn canolbwyntio mwy ar gymeriad eu testun.

"Mae 'Wynebau Cymru' yn cynrychioli cyfnod pwysig yn natblygiad celf yn y wlad hon," meddai Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru. "Bydd ymwelwyr yn adnabod rhai o'r wynebau, bydd eraill yn llai cyfarwydd, ond bydd gan bob un stori i'w hadrodd."

Arolwg trawiadol o gelf o'r 1820au hyd at yr 1880au yw 'Celf ym Mhrydain Oes Fictoria'. O dirluniau JMW Turner a John Constable i waith y Cyn-Raffaeliaid a'r mudiad Esthetaidd, mae'r arddangosfa'n archwilio cyfoeth ac amrywiaeth celf Fictoraidd. Mae hefyd yn cynnwys cerfluniau, yn enwedig gwaith y Cymro John Gibson, a chelfi.

Mae ‘Kinchenjunga o Darjeeling' gan yr artist a'r ffraethebwr Edward Lear, a brynwyd gan Amgueddfa Cymru yn 2006 diolch i gefnogaeth Y Gronfa Gelf a noddwyr preifat, yn un o uchafbwyntiau'r arddangosfa. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar un o gopaon uchaf yr Himalayas, y mae'r artist ei hun yn cyfaddef ei fod yn frawychus!

Un o hoff artistiaid y Frenhines Fictoria oedd Syr Edwin Lanseer. Mae ei waith ‘Llygotwyr' sy'n canolbwyntio ar dri o'i g?n, a beintiodd pan oedd yn ond yn 19 oed, ymysg y nifer o drysorau llai ac annisgwyl sydd yn yr oriel.

"Mae datblygiadau i lawr cyntaf yr adeilad yn rhoi cyfle i ni arddangos gweithiau sydd heb eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hyd yma oherwydd prinder lle. Y nod, wrth i ni ganolbwyntio'n hymdrechion ar adnewyddu adain orllewinol yr adeilad ar gyfer celf gyfoes, yw cynnig mwy o ddewis i'n hymwelwyr, a phrofiad gwell wrth iddynt ddod i fwynhau'n casgliad celf cenedlaethol."

Mae mynediad i'r orielau newydd a'r Amgueddfa am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru, sef:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i olygyddion:

• Y Gronfa Gelf

Ers 1928, mae'r Gronfa Gelf wedi rhoi bron i £2.3 miliwn mewn grantiau i Amgueddfa Cymru ac wedi'i helpu i brynu 680 o wrthrychau yn cynnwys gweithiau celf gan William Hogarth, Canaletto, David Hockney, Alfred Sisley, John Constable, Edward Lear, Richard Deacon, Frank Auerbach, Adam Pynacker, Thomas Girtin, Jan van de Cappelle, Syr Joshua Reynolds, Syr Stanley Spencer a Nicolas Poussin.

Mae'r Gronfa Gelf yn cynnig grantiau i helpu amgueddfeydd ac orielau'r DU i gyfoethogi eu casgliadau; yn ymgyrchu ar ran amgueddfeydd a'u hymwelwyr; ac yn hyrwyddo mwynhad celf. Fe'i hariannir yn llwyr gan roddion gan y cyhoedd ac mae ganddi 80,000 o aelodau. Ers 1903 mae'r elusen wedi helpu amgueddfeydd ac orielau ledled y DU i gaffael 860,000 o weithiau celf ar gyfer eu casgliadau. Mae llwyddiannau diweddar yn cynnwys: helpu i gael casgliad Anthony d'Offay's, ARTIST ROOMS, ar gyfer y Tate ac Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban ym mis Chwefror 2008 gyda grant o £1miliwn; llunio pecyn ariannu unigryw er mwyn sicrhau bod Dumfries House yn Ayrshire a'i chynnwys mewn cyflwr da i'r genedl yng Ngorffennaf 2007; a rhedeg yr ymgyrch gyhoeddus ‘Buy a Brushstroke' a gododd dros £550,000 i gadw Blue Rigi gan Turner yn y DU. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa'r Wasg ar 0207 225 4888 neu ewch i www.artfund.org.

• Mae Pobl, Pwysigion, P?er: Wynebau Cymru 1800 - 2000 yn cynnwys:

Hunanbortread ar Garnedd Dafydd, Brenda Chamberlain (1912-1972)

Adelina Patti (1843-1919), Karoly Marko (yr ieuaf) (1822-1891)

Glöwr o Gymro, Evan Walters (1893- 1951)

Dannie Abse (ganwyd1923), Josef Herman (1911-2000)

Dylan Thomas (1914-1953), Alfred Janes (1911-1999)

William Henry Davies (1871-1940), Augustus John (1878-1961)

Syr Charles Morgan (1760-1846) yng nghystadleuaeth aredig Cas-bach, James Flewitt Mullock (1818-1892)

Laura, Robert a John Hughes, Hugh Hughes (1790-1863)

• Mae Celf ym Mhrydain Oes Fictoria yn cynnwys: . Llygotwyr, Syr Edwin Landseer (1802-1873)

The Stronghold of the Seison and the Camp of Kittywake, John Brett (1830-1902)

Perseus a'r Graiae, Syr Edward Burne-Jones (1833-1898)

Kinchenjunga o Darjeeling, Edward Lear (1812-1888)

Offeren i'r Medelwyr, Penry Williams (1802-1885)