Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa o 'Safon Rhyngwladol'

Mae Ionawr yn aml yn cael ei hystyried yn fis tawel ac o dan yr amgylchiadau presennol, does dim cymhelliad gan nifer ohonom. Ond i staff yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, mae'r flwyddyn newydd wedi dechrau gyda newyddion da wrth i'r Amgueddfa yng Nghaerllion gael ei gwobrwyo â statws Buddsoddwyr mewn Pobl o safon uchel.

 Mae model Buddsoddwyr mewn Pobl yn annog sefydliadau i weithredu'n effeithiol a sicrhau bod gan weithwyr yr wybodaeth, y sgiliau a'r cymhelliad i weithio hyd eithaf eu gallu.

Ceisiodd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru fframwaith proffil Buddsoddwyr mewn Pobl sy'n galluogi sefydliadau i wella'u gallu a meincnodi yn erbyn busnesau eraill. Llwyddodd yr Amgueddfa i gyrraedd y nod gydag un lefel dau, a naw lefel pedwar, a ystyrir yn ‘safon rhyngwladol' yn ôl Buddsoddwyr mewn Pobl.

"Rydym wrth ein boddau bod corff allanol gwerthfawr yn ystyried bod gweithredoedd a staff yr Amgueddfa o ansawdd mor uchel," dywedodd Bethan Lewis, Rheolwraig, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. "Mae Buddsoddwyr mewn Pobl wedi ein hannog i weithio fel tîm yn fwy effeithiol, rydym yn deall ac yn ymddiddori yn swyddi'n gilydd ac hefyd yn dathlu llwyddiant.

"Mae buddsoddi yn staff yr Amgueddfa wedi arwain at weithwyr hapus ac ymwelwyr bodlon. Mae pobl yn ymweld â'r Amgueddfa i weld y casgliadau ac i ddarganfod mwy am fywydau'r Rhufeiniaid 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond meant yn gadael gyda mwy na hynny.

"Y staff yw'r rhai sy'n croesawu ymwelwyr drwy'r drws, sy'n cynnal digwyddiadau a gweithdai. Maent yn dod â'r casgliadau'n fyw - a hynny â gwen ar eu hwynebau! Mae Buddsoddwyr mewn Pobl wedi profi bod buddsoddi yn eich staff yn golygu profiad gwell i ymwelwyr yn y pen draw."

Mae cynnigion yr Amgueddfa'r mis hwn yn cynnwys sgwrs gyda'r nos am waith y cyhoedd wrth ddod o hyd i ddarganfyddiadau archeolegol pwysig rhwng 6 - 8pm dydd Mercher 28 Ionawr (addas ar gyfer oedolion, £3 y tocyn). Diwrnod ar gyfer y plant bach fydd dydd Gwener 30 Ionawr - amser i fwynhau creu cerddoriaeth a chanu caneuon yn Gymraeg a Saesneg. Cynhelir y sesiwn ar gyfer plant rhwng 18 mis - 3 mlwydd oed o 1:30pm hyd at 3:00pm. I archebu lle ar gyfer y ddau ddigwyddiad ffoniwch (01633) 423134.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r digwyddiadau, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion:

• Am ragor o wybodaeth yngl?n â Buddsoddwyr mewn Pobl, ewch i www.investorsinpeople.co.uk.