Datganiadau i'r Wasg
STREIC!
Dyddiad:
2009-03-11Bydd rhifyn diweddaraf o GLO, cylchgrawn Big Pit ar hanes y bobl, yn cael ei lansio'r wythnos hon i gyd-fynd â nodi 25 mlynedd ers dechrau Streic y Glowyr 1984/5.
Mae'r cylchgrawn yn adrodd hanesion 19 o bobl roedd y Streic wedi effeithio ar eu bywydau mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys glowyr ar streic, rheolwyr, gwragedd a phlant i lowyr, gwleidyddion a heddweision. Rhif pedwar ydyw mewn cyfres o gylchgronau sy'n edrych ar bynciau sy'n allweddol i'r diwydiant glo yng Nghymru. Mae rhifynnau gynt wedi canolbwyntio ar wladoli'r diwydiant, Bechgyn Bevin a gweithwyr tramor ym meysydd glo Cymru.
Meddai Ceri Thompson, Curadur Big Pit:
"Mae gymaint o bobl gafodd eu heffeithio gan y Streic yng Nghymru ac roedd cyfoeth o storïau sydd erioed wedi cael eu hadrodd mewn unrhyw fanylder. Wrth roi'r rhifyn 'ma wrth ei gilydd roedden ni eisiau dweud yr hanesion hyn a rhoi gwedd newydd ar y cyfnod anodd 'ma.
"Dyw'r cylchgrawn ddim yn ceisio cyflwyno hanes cyflawn y Streic ond yn lle hynny mae'n dangos sut bod pobl wahanol wedi ymateb yn y sefyllfaoedd roedd wedi codi yn sgil y gweithredu diwydiannol."
Gellir lawrlwytho'r llyfryn yma
Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa genedlaethol dros Gymru, sef
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Amgueddfa Wlân Cymru
Amgueddfa Lechi Cymru
ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.