Datganiadau i'r Wasg

Rhyfeddodau Rhufeinig

Sgwrs gyda’r nos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru’n archwilio meddyginiaethau Rhufeinig 

Allwch chi ddychmygu’ch doctor yn argymell bath d?r hallt a chath fôr drydan neu amsugno’ch gwaed gan ddefnyddio cwpan metal cynnes! Petaech yn Rhufeiniwr, dyma’r math o ddulliau byddai’ch doctor chi wedi eu defnyddio. 

Bydd rheiny sy’n mynychu sgwrs gan Roger Morgan yn Amgueddfa Leng Rufeinig Cymru o 6 - 8 yr hwyr ar 25 Mawrth 2009 yn darganfod sut y byddai eu hafiechydon wedi cael eu trin gan Rufeinwyr oedd mewn gwirionedd yn dda iawn ym maes meddygaeth.

O lawfeddygon i ddeintyddion, roedd ganddynt arbenigwyr oedd yn medru trin pob cyflwr. Bydd Mr Morgan yn archwilio’r system feddygol Rufeinig. Bydd yn datgelu gwybodaeth yngl?n â’r bobl oedd yn gweithredu’r sgiliau meddygol yma ac o ble darddodd eu gwybodaeth.

“Y Groegwyr oedd y dylanwad pennaf ar feddyginiaethau Rhufeinig ac roedd nifer o ddoctoriaid Rhufeinig yn Roegwyr neu o deulu Groegaidd,” dywedodd Mr Morgan. “Er enghraifft, roedd Galan yn Roegwr. Fe ddaeth yn llawfeddyg i’r Ymerawdwr Marcus Aurileus ar ôl astudio’n Alexandria ac mewn gwersyll hyfforddi gladiatoraidd.

“Byddai claf yn ymweld â theml i ddechrau, ac yn cynnig offrwm i’r Duwiau os oeddent am wneud. Fe fyddant yn cynnig model o’r rhan o’r corff oedd angen ei drin. Pe na bai hynny’n llwyddiannus, fe fyddant wedyn yn mynd i weld doctor a’ch cyfoeth oedd yn penderfynu pa fath o ddoctor fyddai’n eich trin chi.”

Mae tocynnau ar gyfer y sgwrs ar feddygaeth Rufeinig yn costio £3 yr un a gellir eu prynu yn Amgueddfa Leng Rhufeinig Cymru drwy ffonio 01633 423 134.

Cynigir mynediad am ddim i’n holl amgueddfeydd yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu anfonwch e-bost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk