Datganiadau i'r Wasg

Goleuadau'n cael eu diffodd yn Amgueddfa'r Glannau

Bydd y goleuadau'n cael eu diffodd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe y penwythnos hwn wrth ei bod yn ymbaratoi i gymryd rhan yn Awr y Ddaear a drefnir gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd.

Am un awr, 8:30 hyd 9:30pm ar Sadwrn 28 Mawrth, bydd yr Amgueddfa yn ymdywyllu ac ymuno â miliynau dros y byd i helpu cefnogi gweithredu rhyngwladol ar y newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa: "Pan glywson ni am yr ymgyrch roedden ni'n awyddus iawn i fod yn rhan ohoni. Mae'n fater o godi ymwybyddiaeth o'r newid yn yr hinsawdd ac rydyn ni wrth ein boddau'n chwarae rhan yn y fenter fyd-eang 'ma."  

Bydd yr Amgueddfa'n parhau i gadw'r mater yng ngolwg y cyhoedd drwy groesawu Newid yn yr hinsawdd - Beth sy'n digwydd?, arddangosfa deithiol sy'n cyrraedd ar ddydd Gwener 10 Ebrill. Bydd yr arddangosfa sy'n aros yma am dri mis yn annog ymwelwyr i ddysgu am sut mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y byd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i garedigrwydd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru'n rhedeg saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerleon; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.