Datganiadau i'r Wasg

Casgliadau gwydr syfrdanol yn cyrraedd Glannau Abertawe

Mae Arddangosfa syfrdanol o wydr cyfoes yn dod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Bydd Ar yr Ymyl, sy'n cynnwys artistiaid o Iwerddon a De Orllewin Lloegr, yn rhedeg rhwng dydd Sul 5 Ebrill a dydd Sul 31 Mai, ac yn arddangos cymhlethdodau a hyblygrwydd gwydr fel cyfrwng hunan-fynegiannol.

Gan arddangos y gorau o waith 2D a 3D cyfoes, bydd yr arddangosfa'n archwilio pob techneg dan haul, gan eu hymestyn ymhellach. Mae rhai darnau'n crogi tra bo eraill yn sefyll, ac mae yna gryn amrywiaeth o ran maint, patrwm arwyneb, lliw, a chynnwys.

Wrth siarad am yr arddangosfa, dywedodd Chinks Grylls, un o'r curaduron, a hyfforddwyd hefyd yn Abertawe yn yr 80au cynnar: "Rydym wrth ein bodd yn dathlu gwaith yr artistiaid hyn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

"Dewiswyd Abertawe am ei chysylltiad topograffig agos ag Iwerddon, a'r ffaith ei bod yn gartref i un o adrannau gwydr gorau Ewrop - Prifysgol Fetropolitan Abertawe.

"Nod yr arddangosfa yw hybu deialog creadigol a chydweithio rhwng Iwerddon, Cymru a De Orllewin Lloegr gan arddangos y gweithiau cyfoes gorau. Mae nifer o'r artistiaid hyn yn creu gwaith ar gyfer y byd cyhoeddus, ac rydym am gryfhau projectau cyswllt rhwng y rhanbarthau yn y dyfodol."

Meddai Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa: "Mae'r arddangosfa unigryw hon yn gyfle i'n hymwelwyr weld casgliad o waith newydd gan artistiaid gwydr modern. Hefyd, mae'r Colonâd yn ardal ddelfrydol ar gyfer arddangosfa fel hon, gyda'i golau naturiol ffantastig."

Mae mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i garedigrwydd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru'n rhedeg saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerleon; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.