Datganiadau i'r Wasg

Gemwaith aur yn adrodd hanesion newydd

Darganfod trysor gan archeolegwyr wrth ymyl Llan-maes

Datganwyd heddiw (1 Ebrill 2009) fod darn o aur a orchuddiai fodrwy gwallt a stribed aur o gyffsen breichled yn drysor gan Grwner Ei Mawrhydi ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae'r hyn a ystyrir yn fodrwy gwallt, sy'n debyg i enghreifftiau eraill a ddarganfuwyd ar draws Prydain, Iwerddon a rhannau o Ewrop, yn dyddio'n ôl i'r Oes Efydd hwyr (1150-800 CC). Buasai wedi cael ei gwisgo fel clustlws hefyd, mae'n debyg. Credir bod y stribed aur, a ddarganfuwyd mewn haenen cynt yn agos ato, yn rhan o freichled aur o Ganol yr Oes Efydd (1600-1400 CC).

Darganfuwyd y ddau wrthrych yn ystod cloddfeydd archeolegol yn Llan-maes ger Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg ym mis Gorffennaf 2008. Mae'r project ymchwil, a ariennir gan Amgueddfa Cymru, wedi datguddio hyd yma anheddfa o'r Oesoedd Efydd a Haearn a thomen neu dwmpath sbwriel o'r Oes Haearn. Mae hyn yn cynnwys gweddillion gwleddoedd cynhanesyddol gan gynnwys crochanau, nifer o esgyrn moch, bwyeill efydd a llestri pridd.

Dywedodd Adam Gwilt, Curadur Casgliadau'r Oes Efydd, Amgueddfa Cymru:

"Mae ein gwaith maes yn Llan-maes yn cynhyrchu nifer o straeon newydd am fywyd a marwolaeth cynhanesyddol yn y rhan yma o Gymru.

"Mae'r darnau aur bach yma'n ein helpu i ddychmygu'r bobl oedd yn ffermio a gweithio gyda metal a fu'n byw yma. Anaml iawn mae gwrthrychau aur yn cael eu canfod ger aneddfeydd o'r Oes Efydd."

Dyfarnwyd modrwy haen arian a ddarganfuwyd yn Nhregolwyn, Bro Morgannwg ym mis Awst 2008 hefyd yn drysor. Mae arddull addurnedig a ffurf y fodrwy'n golygu ei bod hi fwy na thebyg yn dod o'r cyfnod 1500-50 OC. Canfuwyd enghreifftiau tebyg gyda bandio igam ogam yn hytrach na bandio lletraws, cyfochrog yn Buckingham ac ar fwrdd y Mary Rose a suddodd yn y Solent ym 1545. Ac yn olaf, ingot aur, sy'n debyg i fotwm mawr (a ffurfiwyd gan doddi ceiniogau Celtaidd).

Bydd Amgueddfa Cymru'n ceisio caffael y gwrthrychau hyn ar ôl iddynt gael eu gwerthuso'n annibynnol.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle bydd y gwrthrychau'n cael eu harddangos yn y dyfodol,.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am wybodaeth bellach, lluniau neu gyfleoedd cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 / 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.