Datganiadau i'r Wasg

Carwriaeth gyfrinachol artistiaid yn cael ei datgelu

Datgelu perthynas Gwen John ac Auguste Rodin drwy arddangosfa gelf newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ym 1904 symudodd yr artist Cymreig, Gwen John (1876-1939), o Brydain i Baris - canolbwynt y byd celf ar y pryd - gan ddod yn fodel, ac yn gariad, i Auguste Rodin (1840-1917). Mae Y Meistr a'r Model: Rodin a Gwen John, sy'n agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Sadwrn 4 Ebrill 2009, yn archwilio'u carwriaeth angerddol a barodd am ddegawd, ac a luniodd bywyd a gwaith Gwen John.

Bydd Amgueddfa Cymru'n cyfuno, am y tro cyntaf, gweithiau o'i chasgliad digyffelyb o waith Gwen John a gr?p o gerfluniau trawiadol gan yr artist Ffrengig enwog Auguste Rodin, oll o gasgliad yr Amgueddfa.

Ar gyngor ei brawd - yr artist tanllyd Augustus John - cyflwynodd Gwen John ei hun i Auguste Rodin, a oedd yn ffigwr nodedig yn y byd celf, a dechreuodd fodelu iddo. Fe'i dewiswyd gan Rodin fel model ar gyfer comisiwn a dderbyniodd ym 1903 gan Gymdeithas Rhyngwladol Cerflunwyr, Arlunwyr a Cherfwyr i gynllunio cofeb efydd i'r artist James McNeill Whistler. Gellir gweld pen efydd a gynhyrchwyd ar gyfer y prosiect hwn yn yr arddangosfa.

Daeth Rodin yn ganolbwynt i fywyd John, gan gynnig cymorth emosiynol, deallusol ac ariannol iddi. Trefnodd ei bywyd o'i amgylch ac ysgrifennodd dros 1,000 o lythyron ato, yn aml yn cyfeirio ato fel ‘Maitre' (Meistr). Er fod Rodin yn edmygu rôl John fel model, a fod ganddo feddwl uchel o'i gwaith (fe'i disgrifiodd fel ‘artist prydferth'), datblygodd eu perthynas yn fwy na ‘meistr' a ‘model', a daethant yn gariadon.

Mae Y Meistr a'r Model yn cynnwys peintiadau olew a darluniau gan John a arddangosir ochr yn ochr â cherfluniau marmor ac efydd Rodin. Mae'r peintiadau olew'n cynnwys Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis, a bentiwyd yn ystod eu carwriaeth, yn ogystal ag enghreifftiau o'i phortreadau a lluniau bywyd llonydd. Mae darluniau yn yr arddangosfa o'r math y byddai Gwen John wedi'u dangos i Rodin, yn cynnwys darluniau dymunol o'i chath annwyl mewn pensel a golch - arddull a ddysgodd gan ei chariad. Awgryma darlun arall o un o gerfluniau Rodin ei bod wedi darlunio tra'n modelu iddo, ac mae gwaith arall yn darlunio'i d? - darlun a wnaeth, efallai, wrth aros am ei chariad.

Ymysg y cerfluniau y mae ffigwr efydd Rodin Efa, yngh?d â dau gerflun marmor Y Ddaear a'r Lleuad a Y Cymylau, sy'n arddangos meistrolaeth Rodin wrth gyfuno ffigyrau i greu llinellau llyfn.

"Dyma gyfle cyffrous i archwilio'n casgliadau mewn ffordd newydd," dywedodd Beth McIntyre, Curadur (Printiadau a Darluniau), Amgueddfa Cymru. "Mae gennym gasgliadau nodedig o weithiau'r ddau artist yma, ac mae'n gyfle gwych i ni ganolbwyntio ar y berthynas rhwng un o artistiaid benywaidd mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif, Gwen John, a'r cerflunydd chwedlonol, Auguste Rodin."

Mae Y Meistr a'r Model: Rodin a Gwen John yn rhan o ymgyrch yr Amgueddfa i wella'r ffordd y caiff casgliad celf Cymru ei harddangos. Mae'r Amgueddfa'n edrych ar sut y gellid arddangos mwy o wrthrychau, arddangos gweithiau celf mewn ffyrdd newydd, yn ogystal ag archwilio themâu ffres. Mae rhai o'r themâu hyn yn cael eu treialu yn yr arddangosfa hon yn ogystal â Gwrthryfel Celfyddydol: Celf Ffrengig ac Argraffiadaeth sydd hefyd ar agor i'r cyhoedd ar hyn o bryd.

Cynigir mynediad am ddim i'r arddangosfa fydd ar agor tan Ionawr 2010 ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, lluniau neu cyfleodd cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bost catrin.mears@museumwales.ac.uk.