Datganiadau i'r Wasg

Celfyddyd Comedi

Comedi'r Junket Club yn yr Amgueddfa Genedlaethol

Fis Tachwedd diwethaf, cynhaliwyd perfformiadau gan rhai o fandiau indie gorau Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel rhan o'r ?yl gerddorol boblogaidd SWN. Fis nesaf, bydd yr Amgueddfa'n troi at gomedi diolch i The Junket Club.

Lloyd Woolf, a ddisgrifiwyd fel ‘athrylith comedi' gan y Guardian, ac Elis James o Gaerdydd fydd y prif westeion ar lwyfan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am 6:30 yr hwyr ar ddydd Sul 3 Mai 2009 yn y trydydd o gyfres o ddigwyddiadau gan The Junket Club mewn lleoliadau anarferol.

Bydd Lloyd Woolf - seren Radio 4 a Cowards ar BBC 4 yn perfformio'i sioe a wnaeth yng Nghaeredin, 10 Shows I Abandoned. Mae Elis James yn enwog am allu ffeindio hiwmor ym mhob pwnc, bron.

Hyd yn hyn mae The Junket Club wedi rhoi llwyfan i Tom Wrigglesworth mewn stiwdio artist yn y Bari, ac i Josie Long ym mhlanetariwm 25 sedd Caerdydd.

Bydd elw o'r digwyddiad, a fydd yn cael ei recordio ar gyfer y BBC ar gyfer ‘Introducing in Wales' Radio 1, yn mynd i Amgueddfa Cymru. Mae tocynnau'n £9 ac ar gael o'r wefan www.wegottickets.com. Dylid archebu tocynnau o flaen llaw.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Mae Lloyd Woolf ac Elis James ar gael ar gyfer cyfweliadau. Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk neu paul@plugtwo.com.