Datganiadau i'r Wasg

O Gymru i Washington - paratoi i gynrychioli Cymru

Prif Weinidog Rhodri Morgan yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis wrth iddynt baratoi i gynrychioli Cymru yn Washington

Heddiw, [1 Mai 2009], ymwelodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, ag Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis i gyfarfod â'r aelodau staff yno fydd yn cynrychioli Cymru mewn digwyddiad rhyngwladol mawr yn yr Unol Daleithiau ym mis Mehefin.

Cymru yw'r wlad fydd yn cael sylw arbennig yng Ng?yl Bywyd Gwerin Smithsonian a gaiff ei chynnal ar y National Mall yn y ddinas. Bydd cynrychiolwyr o'r Amgueddfa Lechi ymhlith tua cant o gyfranogwyr o Gymru fydd yn cymryd rhan yn yr ?yl lle byddant yn arddangos y grefft o dorri llechi i'r miloedd lawer o ymwelwyr.

Yn ystod ei ymweliad â'r amgueddfa, cyfarfu'r Prif Weinidog â Dafydd Davies, chwarelwr fydd yn dangos y grefft o hollti a naddu'r llechi ac â Dafydd Roberts, ceidwad yr amgueddfa. Mae cwmni Rigcycle Ltd sy'n berchen ar Chwarel Penrhyn ym Methesda a Chwarel Lechi Ffestiniog ym Mlaenau Ffestiniog, wedi rhoi dwy dunnell o lechi i'r amgueddfa i'w cludo draw i'r ?yl.

Byddant yn gweithio ochr yn ochr â chyfranogwr arall o'r Gogledd, sef Howard Bowcott o Benrhyndeudraeth. Mae'r arlunydd hwn wedi ennill enw iddo'i hun ym maes celfyddyd cyhoeddus, fel dylunydd ac cherflunydd ymarferol, a bydd yn creu cerflun ar ffurf pyramid yn yr ?yl o'r gwastraff sy'n weddill ar ôl hollti'r llechi. Mae Cwmni Llechi Cymreig Greaves Ltd wedi rhoi llechi I Howard I'w defnyddio yn yr Wyl.

Bydd Dafydd Davies hefyd yn naddu llechi fydd yn cael eu crogi ar ffrâm fetal wedi'i gwneud gan Howard i greu math o seiloffon fydd yn adnabod y gwahanol feintiau o lechi a'u henwau rhyfeddol fel "Wide Ladies" a "Duchesses". Disgwylir mai cyfranogwr arall, Gai Toms, fydd yn chwarae'r offeryn hwn wrth i David Ambrose adrodd stori'r Torrwr Llechi.

Llechi hefyd fydd un o brif themâu gwaith dau artist arall yn yr ?yl. Angharad Pearce Jones sy'n dylunio safleoedd fydd yn gyfrifol am y gwaith ffensio a'r waliau i'w gweld o gwmpas ardal Cymru o'r ?yl a John Neilson fydd yn cerfio cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, ar lechen.

Meddai'r Prif Weinidog: "Mae gan lechi o Gymru enw da iawn fel deunydd adeiladu ym mhedwar ban byd ac mae'n rhan eiconig o dreftadaeth ddiwydiannol Gogledd Cymru. Dyna pam y bydd yn cael sylw arbennig yng Ng?yl Bywyd Gwerin Smithsonian lle byddwn ni'n arddangos Cymru a'i thraddodiadau niferus a'i diwylliannau cyfoes i fwy na miliwn o ymwelwyr o bob rhan o'r Unol Daleithiau a thu hwnt. Roeddwn i'n awyddus i gwrdd â rhai aelodau o'r tîm fydd yn arddangos eu sgiliau ym mhrif ddinas America ym mis Mehefin. Os bydd y bobl sy'n ymweld â'r ?yl yn cael profiad tebyg i'r un dw i wedi'i gael, fe fyddan nhw'n cael gwledd.

Meddai Dafydd Roberts: "Mae cysylltiadau wedi bod rhwng y diwydiant llechi a'i phobl yn Ne-orllewin Cymru ac yng Ngogledd America ers dros ganrif a hanner. Mae'n briodol iawn, felly, y byddwn ni, staff yr Amgueddfa Lechi a staff ein hamgueddfeydd eraill yn nheulu Amgueddfa Cymru, yn helpu i goffáu a dathlu'r cyswllt yma.

"Rydan ni'n mynd â llechi o Gymru efo ni i ddangos i ymwelwyr y Smithsonian sut i'w naddu, nid dim ond am ein bod yn gwybod sut i weithio efo llechi Cymreig ond hefyd am ein bod yn gwybod mai llechi Cymru ydy'r gorau yn y byd. Roeddan ni'n teimlo felly ei bod yn bwysig dangos hyn i'r bobl yn yr ?yl. Wedi dweud hynny, rydan ni'n disgwyl defnyddio cyflenwad o flociau llechi o Slate Valley yn Granville, Talaith Efrog Newydd, sy'n cael eu defnyddio gan y Slate Valley Museum, yr amgueddfa yn yr ardal honno rydan ni wedi'i gefeillio â hi."

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: 

 Non Jones Swyddog Y Wasg, Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 029 20898683

neu Julie Williams, Swyddog Y Wasg, Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis 01286 873707