Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa o waith y ffotograffydd chwedlonol, Diane Arbus, yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

"Mae ffotograff yn gyfrinach am gyfrinach. Mwyaf mae'n ei ddweud, lleiaf sy'n hysbys"

Diane Arbus

Bydd un o brif arddangosfeydd celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2009 yn amlygu gwaith y ffotograffydd enwog o Efrog Newydd, Diane Arbus (1923 -1971), a weddnewidiodd y byd ffotograffiaeth.

Rhan o daith cyntaf ARTIST ROOMS o amgylch y DU, gyda chefnogaeth Y Gronfa Gelf, Diane Arbus, sy'n cynnwys 69 llun du a gwyn, gan gynnwys y portffolio pwysig a phrin o ddeg o hen brintiau: Blwch o Ddeg, 1971, yw un o'r casgliadau gorau sy'n bodoli o waith Arbus. Arddangosir detholiad eang o'r lluniau hyn yn yr Amgueddfa o 9 Mai tan 31 Awst 2009.

Yn ystod 2009, bydd 18 o amgueddfeydd ac orielau ar draws y DU yn arddangos gweithiau o gasgliad Artist Rooms a grëwyd gan y deliwr a'r casglwr, Anthony d'Offay, ac a dderbyniwyd gan y genedl ym mis Chwefror 2008. Diane Arbus fydd un o'r arddangosfeydd cyntaf ar daith o'r casgliad yma.

Amcan Anthony d'Offay drwy greu Artist Rooms oedd neilltuo ystafelloedd penodol ar gyfer artistiaid arbennig, Diane Arbus yn yr achos hwn. Gan grynhoi America'r 1950au a'r 1960au, mae Arbus yn enwog am bortreadau o noethlymunwyr, perfformwyr syrcas, teuluoedd dosbarth canol a selotiaid.

Yn aml, bydd ei lluniau pwerus, ac weithiau dadleuol, yn dangos pethau cyfarwydd fel pethau od a phethau od neu egsotig fel pethau cyfarwydd. Diolch i'r weledigaeth unigryw hon a'i gallu i ymgysylltu â'r bobl yn eu lluniau mewn ffordd mor ddigyfaddawd, Arbus yw un o ffotograffwyr pwysicaf a mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif.

"Mae'n fraint cael bod yn rhan o Daith Artist Rooms - menter sy'n cyfuno celfyddyd o safon uchel gyda sefydliadau pwysig ledled y wlad," meddai Nicholas Thornton, Pennaeth Celfyddyd Fodern a Chyfoes yn Amgueddfa Cymru.

"Gan fod dull arloesol Arbus wedi dylanwadu'n enfawr ar ffotograffwyr ledled y byd, rydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfa eithriadol hon o'i gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar ymwelwyr hen a newydd yr Amgueddfa."

ARTIST ROOMS yw'r tro cyntaf i gasgliad cenedlaethol gael ei rhannu a'i harddangos ar yr un pryd ar draws y DU, ac ond yn bosibl drwy haelioni'r Gronfa Gelf ac yn yr Alban, Llywodraeth yr Alban.

Dyfeisiwyd Artist Rooms on Tour with The Art Fund er mwyn cymryd yr arddangosfeydd y tu hwnt i berchnogion y casgliad, Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban, ac i gyrraedd ac ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd ar draws y wlad, yn arbennig pobl ifanc.

Orielau Cenedlaethol yr Alban a'r Tate sydd berchen ac yn rheoli Artist Rooms ar ran y genedl. Mae wedi cryfhau gallu'r Tate i gynrychioli peth o gelf bwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif, ac yn helpu sefydlu'r Alban fel lleoliad cydnabyddedig ar draws y byd ar gyfer celf fodern.

Mae'r Gronfa Gelf yn rhoi £250,000 y flwyddyn i Artist Rooms on Tour with The Art Fund. Mae Llywodraeth yr Alban yn rhoi £175,000 dros dair blynedd.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae mynediad am ddim i bob Amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bost catrin.mears@museumwales.ac.uk.