Datganiadau i'r Wasg

Wythnos Ffoaduriaid yn dechrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn cefnogi ymgyrch wythnos i dynnu sylw at faterion ffoaduriaid Cymru.

Bydd Wythnos Ffoaduriaid Cymru (15-21 Mehefin) yn cychwyn ddydd Sadwrn 13 Mehefin 10am-4.30pm yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe gyda digwyddiad am ddim sy'n cynnwys cerddoriaeth byd, dawns, gweithgareddau plant, arddangosfa ffotograffyddol a llawer mwy.

Bydd thema eleni gorffennol gwahanol, yr un dyfodol yn derbyn sylw eang gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o faterion ffoaduriaid a dathlu eu cyfraniad i fywyd Cymru. Bydd cannoedd o weithgareddau'n digwydd i gefnogi'r ymgyrch gan gynnwys gweithgareddau lleol gan gymunedau ac ysgolion, arddangosfeydd celf, dadleuon gwleidyddol, dangos ffilmiau, cynadleddau, gwyliau cerddorol mawr, digwyddiadau chwaraeon ac ati.

Yn Abertawe mae nifer o sefydliadau a grwpiau wedi ymuno i hybu a dathlu'r wythnos ar y cyd. Yn yr Amgueddfa gall ymwelwyr weld ystod o gerddoriaeth a dawns byd gan gynnwys perfformiadau hip hop o Fforwm Ieuenctid y Ganolfan Affricanaidd, gorymdaith ddrymio gan Samba Tawe ac interliwdiau cerddorol gan Cougar Band sef gr?p gwerin o Gwrdistan wedi'i leoli yn Abertawe, gr?p cerddorol Affro-Caribïaidd o Gaerdydd a 2 RUDE, band saith person o Gasnewydd.

Mae Abertawe'n Ddinas Noddfa i ffoaduriaid ac fel rhan o'r wythnos bydd pabell fawr ar dir yr Amgueddfa. Yno gall ymwelwyr gyfarfod ag ystod eang o grwpiau sy'n gweithio'n agos gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches dros y ddinas a gwrando ar gerddoriaeth a barddoniaeth fyw.

Yn yr Amgueddfa bydd arddangosfa ffotograffyddol a gweithdai i oedolion ar sut i chwalu camdybiaethau gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru. Bydd digon o adloniant i'r ifainc hefyd gyda pherfformiadau gan Circus Eruption, syrcas ieuenctid ymrymusol yn Abertawe i bobl ifainc oed 11-19 a bws chwarae Dinas a Sir Abertawe. Ond nid dyna'r diwedd arni. Gyda'r hwyr bydd Theatr Fforwm yn cynnal gweithdy yn Amgueddfa Abertawe ac wedyn bydd Ymsonau Lloches Tân a Rhew sef dramateiddio profiadau ceiswyr lloches go iawn.

'Rydym yn falch yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i gynnig lle i lansiad Cymru,' meddai Swyddog Addysg Gymunedol, Sue James. 'Mae'n ffordd wych o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n wynebu ffoaduriaid yng Nghymru ac o'u cyfraniad i'r gymdeithas.'

'Mae digwyddiadau a gweithgareddau'r diwrnod yn amrywiol iawn ac mae rhywbeth i bawb. Mae'n gyfle i ni brofi a dathlu amrywiaeth gyfoethog cymunedau'r ffoaduriaid drwy ddawns, cerddoriaeth, gweithdai a ffotograffiaeth,' meddai.

Meddai Tom Cheesman, Trysorydd Gr?p Cefnogi Ceiswyr Lloches Bae Abertawe: 'Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddathlu Wythnos y Ffoaduriaid, lledaenu ei neges a thanlinellu'r rhesymau sydd gan bobl i ymadael â'u mamwlad. Mae'r adloniant yn edrych yn ddifyr iawn gyda llawer o grwpiau cymunedol, lleol yn cyfrannu. Mae'n mynd i fod yn ddigwyddiad i'w gofio.'

Am fwy o wybodaeth neu gyfle ffoto, ffoniwch Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu Marchnata ar (01792) 638970.

Ariennir digwyddiad y lansiad gan Gronfa Gweithgareddau Cymunedol Wythnos Ffoaduriaid Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru.