Datganiadau i'r Wasg

Golwg newydd ar dirwedd Cymru

Trawsnewid - arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

"Project gwerth chweil gydag artistiaid proffesiynol sy'n deall strwythur peintiadau ac sy'n wybodus yngl?n â hanes celf," yw disgrifiad John Rogers, 18 oed, o Trawsnewid.

Roedd John, o Ysgol Gyfun y Pant yn y Rhondda, yn un o blith nifer o ddisgyblion a weithiodd gyda'r artistiaid lleol Dan Llywelyn Hall a Raphael Pepper fis diwethaf i greu gweithiau celf newydd yn seiliedig ar dirwedd Cymru. Canlyniad y cydweithrediad hwn rhwng yr artistiaid a'r pedair ysgol yn y de yw arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o'r enw Trawsnewid, a agorwyd yn swyddogol gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC ddydd Sadwrn 6 Mehefin 2009.

Gan ddefnyddio gweithiau o Oriel Tirluniau Cymru'r Amgueddfa a lleoliadau cyfagos fel ysbrydoliaeth, mae'r artistiaid wedi creu chwe gwaith fydd yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa tan 19 Gorffennaf 2009.

"O fewn yr arddangosfa gydweithredol hon, mae dau beintiwr yn cynnig eu hymateb nhw i'r dirwedd. Nid yw Dan Llywelyn Hall na Raphael Pepper yn ymdrin â'r dirwedd â difaterwch ôl-fodern" meddai'r beirniad celf a bardd, Sue Hubbard.

Yn ganolog i'r arddangosfa y mae panel o 84 o weithiau gan fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Llanedeyrn, Ysgol Llanilltud Fawr, Ysgol y Pant ac Ysgol Uwchradd Mair Ddifrycheulyd a grëwyd yn ystod cyfres o weithdai yn yr Amgueddfa dan arweiniad yr artistiaid eu hunain.

"Gofynnwyd i'r disgyblion i greu eu gweithiau celf eu hunain yn seiliedig ar elfen o'u tirlwedd dewisedig," meddai Eleri Evans, Cydlynydd Addysg, Amgueddfa Cymru a chydlynodd y project. "Mae'n sicr bod y cyfle i weithio ag artistiaid fel Dan a Raphael wedi'u hysbrydoli."

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC hefyd yn gweld budd y bartneriaeth. Dywedodd:

"Mae'n wych gweld yr Amgueddfa Genedlaethol, artistiaid a'n dinasyddion ifanc yn cydweithio. Mae'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r Cynulliad wrth i ni ddathlu 10 mlynedd o ddatganoli, ond mae hefyd yn dangos natur ragweithiol sefydliadau a phobl broffesiynol heddiw, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd a gweithio'n greadigol."

Cefnogir y project gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Iarll Plymouth. Gallwch weld estyniad o Trawsnewid yn Oriel Washington, Penarth.

Mae catalog llawn lluniau i gyd-fynd â'r arddangosfa ar gael o siop yr Amgueddfa.

Cynigir mynediad am ddim i'r arddangosfa ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185 neu ebostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.