Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa'n datguddio arddangosyn gwerthfawr

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn dod i'r Amgueddfa i esbonio pwysigrwydd d?r

 

Mae'n hanfodol ar gyfer ein goroesiad ac yn cyfrannu tuag at fwynhad bywyd. Bydd arddangosyn newydd, a ddatgelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heddiw (o 11 y bore ar ddydd Mawrth, 16 Mehefin 2009) yn annog ymwelwyr i ystyried arwyddocâd d?r.

Mae Mae d?r yn werthfawr - sef gwydraid o dd?r yn cael ei harddangos yn ffurfiol - yn rhan o lansiad ‘Strategaeth Adnoddau D?r: D?r ar gyfer Pobl a'r Amgylchedd' Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae'r adroddiad yn annog defnyddwyr a busnesau i ddefnyddio d?r yn fwy effeithlon er mwyn diogelu'n afonydd a helpu i leihau'r posibilrwydd o brinder d?r yn y dyfodol yn sgil newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn y boblogaeth.

"Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio d?r," dywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. "Mae angen i ni gyd sylweddoli bod d?r yn adnodd gwerthfawr."

Mae'r fenter yn tanlinellu gwaith Amgueddfa Cymru gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd d?r yn ein hamgylchedd a'n cymdeithas.

"Mae Mae d?r yn werthfawr yn fwy na gwydraid o dd?r!" meddai Graham Oliver, Pennaeth Adran Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol, Amgueddfa Cymru. "Mae'r arddangosyn yn symboleiddio pwysigrwydd diogelu ein d?r. Bydd yn cael ei arddangos yma am dri mis i gadw'r mater ym meddyliau'r ymwelwyr, a bydd lefel y d?r yn y gwydr yn cael ei leihau bob mis i symboleiddio'r hyn a fydd yn digwydd i'r adnodd heb reolaeth ofalus."

Bydd yr arddangosyn yn cael ei ddangos yn Oriel Amrywiaeth yr Amgueddfa sy'n dangos ehangder bioamrywiaeth ein byd. Mae'n cynnwys enghreifftiau o rywogaethau a allai gael eu heffeithio gan brinder d?r. Os bydd gormod o dd?r yn cael ei dynnu o gynefinoedd gwlyptirol bydd yn cael effaith andwyol ar rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.

Mae gwyddonwyr yr Amgueddfa'n ymwneud â phrosiectau sy'n monitro ansawdd d?r, a'r bywyd gwyllt sy'n byw mewn d?r neu o'i amgylch yng Nghymru a thu hwnt. Gall ymchwil fel hyn ein helpu i reoli a defnyddio'n afonydd mewn ffordd a fydd yn diogelu ac yn cadw ein bioamrywiaeth.

Yn ei ‘Strategaeth Adnoddau D?r: D?r ar gyfer Pobl a'r Amgylchedd' mae'r Asiantaeth yn cynnig mesurau i helpu i ddiogelu adnoddau d?r hyd at 2050 a thu hwnt. Disgwylir i gyflenwadau d?r yng Nghymru ddod dan bwysau cynyddol yn y dyfodol, ac mae'r Asiantaeth yn rhybuddio bod angen cynllunio nawr i reoli'r galw cynyddol heb ddifrodi'r amgylchedd.

"Oherwydd ei fod yn debygol y bydd llai o dd?r ar gael yn y dyfodol, mae angen i ni feddwl yn ofalus yngl?n â sut y gallwn helpu i arbed ein d?r," meddai Mr Mills o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. "Gall lleihau'r d?r a ddefnyddiwn ni'n ddyddiol a dod yn fwy ymwybodol o gostau cudd d?r helpu i arbed arian yn ogystal â'r amgylchedd."

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac i weld Mae d?r yn werthfawr, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bost catrin.mears@museumwales.ac.uk.

neu

Monica Boehringer, Swyddog y Wasg, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar 029 2046 6026 neu e-bost: Umonica.boehringer@environment-agency.gov.uk.