Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa ar agor i farathon o fiwsig

Perfformiad cyflawn o Vexations yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ym 1969 yn ffenest siop gerddoriaeth Cranes ym Mangor chwaraeodd gr?p o 10 myfyriwr un o'r perfformiadau hysbys cynharaf o'r darn Vexations sy'n gyfansoddiad rhyfedd ond yn bwysig yn hanesyddol.

Deugain mlynedd yn ddiweddarach bydd chwech o'r 10 gwreiddiol yn ail-fyw'r perfformiad hwnnw mewn digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a drefnwyd ar y cyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gan ddechrau 7am ddydd Sadwrn 20 Mehefin 2009.

Darn cerddorol gan Erik Satie ar gyfer allweddell yw Vexations, yn seiliedig ar thema a darn cordiol byr sy'n cael ei chwarae 840 o weithiau, un ar ôl y llall yn ôl y cyfansoddwr. Bu gr?p 1969 wrthi am 21 awr er mwyn cwblhau'r darn.

Cysylltwyd â 6 o'r 10 perfformiwr gwreiddiol dros y flwyddyn ddiwethaf a byddant gyda chymorth gwirfoddolwyr yn ceisio gorffen y perfformiad erbyn canol nos mewn oriel gelf yn yr Amgueddfa ddydd Sadwrn yr wythnos hon.

Ymysg y perfformwyr fydd Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Artistig Cymru, Llundain 2012; Roger Butler, Pennaeth Cerddoriaeth Electroacwstig, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; Pwyll ap Siôn, cyfansoddwr; a Bryony Dawkes, curadur, Amgueddfa Cymru.

Gellir disgrifio Vexations fel darn o waith celf ynddo ei hun ac fe'i chwaraeir yn yr oriel Gwrthryfeloedd Celfyddydol: Celf Ffrainc ac Argraffiadaeth ymysg y peintiadau a grëwyd ym Mharis Satie yn hwyr yn y 19eg ac yn gynnar yn y 20fed ganrif.

"Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o flwyddyn gerddoriaeth Amgueddfa Cymru," dywedodd Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglennu'r Amgueddfa. "Er mwyn manteisio ar ein thema gerddoriaeth rydyn ni'n cyflwyno ymwelwyr i ffyrdd newydd o edrych ar ein casgliadau a gwrando arnynt a dysgu amdanynt."

Yn gysylltiedig â'r digwyddiad bydd Mike Tooby a'r curadur Bryony Dawkes yn arwain sgyrsiau am Erik Satie, Vexations a'r dylanwadau a fu ar y darn am 1.05pm a 7.05pm. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ymwelwyr i leisio barn a yw Vexations yn ddarn o waith celf, yn ddatblygiad cyfansoddi arwyddocâol neu'n rhyfeddod a dim byd arall!

Ysbrydolwyd yr achlysur hefyd gan benodiad John Cale i gynrychioli Cymru yn y Venice Biennale. Roedd John Cale, un o aelodau sylfaenol The Velvet Underground, yn un o 12 cerddor a gymrodd ran yn y perfformiad cyhoeddus cyntaf o Vexations yn y Pocket Theatre yn Efrog Newydd ym Medi 1963.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac i Vexations, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd yr Amgueddfa ar agor o 7am nes bod y darn wedi ei gwblhau.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa genedlaethol dros Gymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu 07920 027067 neu drwy ebost catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.