Datganiadau i'r Wasg

Penwythnos o gerddoriaeth a chrefft yn yr Amgueddfa

Bydd y penwythnos hwn yn gymysgedd o gerddoriaeth a hwyl greadigol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Bydd y diddanwch yn dechrau ddydd Sadwrn (4 Gorffennaf am 1.30pm) gyda'r gweithdy rheolaidd Gener8, sesiwn ymarferol ddelfrydol ar gyfer cyw-beiriannwyr. Darpariaeth gan XL Wales, thema'r mis hwn yw crogiant.

Yna, ddydd Sul (5 Gorffennaf am 12pm) cerddoriaeth fydd yn hawlio'r sylw wrth i Fand Cyngerdd Bae Abertawe berfformio ar y llwyfan ar gyfer Cerddoriaeth Canol Dydd. Bydd yr inerliwd cerddorol hwn yn para dwy awr ac yn cynnwys cerddoriaeth fodern o amrywiaeth o ffilmiau a rhaglenni teledu yn cynnwys Shreck, Mary Poppins a Miss Marple. Byddant hefyd yn perfformio themâu pop adnabyddus gan berfformwyr fel Eric Clapton a Robbie Williams - y math o gerddoriaeth y gall pawb ei mwynhau.

Os ydych yn caru crefftau gwnewch yn si?r eich bod yn dod i'r Gorlan Greadigol (5 Gorffennaf am 1.30pm) i fwynhau gweithdy arbennig wedi'i gynllunio i gyflwyno teuluoedd i syniadau am grefftau i'w gwneud yn y cartref. Thema'r mis hwn yw siopa, a bydd cyfle i wehyddu basgedi siopa papur.

"Bydd digon o bethau'n digwydd yn yr Amgueddfa'r penwythnos hwn i ddiddanu teuluoedd," meddai'r Swyddog Digwyddiadau, Delyth Thomas. "Mae gennym hefyd lawer ar y gweill yr wythnos nesaf, yn cynnwys darlith arbennig yr haf ddydd Llun 6 Gorffennaf ar ddarganfyddiadau seryddol y teulu Herschel yn ogystal â dychweliad y gromen sêr."

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau, ffoniwch 01792 638950.

Cyswllt y wasg: Marie Szymonski ar 01792 638970 neu e-bost: marie.szymonski@amgueddfacymru.ac.uk