Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n cefnogi gŵyl ddawns flynyddol

Os ydych chi'n hoffi dawns, byddwch chi'n caru'n rhaglen o ddigwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'r penwythnos hwn.

Bydd y penwythnos yn cychwyn gyda Dyddiau Dawns Taliesin (dydd Sadwrn 11 a dydd Sul 12 Gorffennaf) sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddawns yn cynnwys perfformwyr rhyngwladol o safon fyd-eang a thalent leol o grwpiau dawns cymunedol Abertawe.  

Datblygodd Dyddiau Dawns o rwydwaith o wyliau dawns mewn lleoliadau trefol, ac fe'i cynhelir yn Sgwâr y Castell ac yn yr Amgueddfa a'i chyffiniau. Bydd yn arddangos dros 50 o berfformiadau yn ogystal â rhaglen lawn o ffilmiau dawns rhyngwladol.  

Bydd Cwmni Dawns Ieuenctid Sirol (Cymru) yn perfformio yn yr Amgueddfa ac yn archwilio potensial y gofod oriel i greu darn sy'n ymateb i'r casgliadau.  

"Rydym yn falch iawn o gefnogi Taliesin gyda'r ?yl Dyddiau Dawns eleni", meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. "Dyma bedwaredd flwyddyn yr ?yl yn Abertawe ac mae bob amser yn denu cynulleidfaoedd mawr - gydag amrywiaeth mor eang o berfformiadau, mae rhywbeth at ddant pawb."  

Esboniodd Sybil Crouch o Ganolfan Celfyddydau Taliesin y cymhelliant tu ôl i'r ?yl: "Mae Taliesin wedi datblygu cynulleidfa ar gyfer dawns dros y 14 mlynedd ddiwethaf ac rydym o hyd yn ceisio gwneud pethau newydd a datblygu diddordeb mewn dawns yn y ddinas. Gan adeiladu ar ein hymrwymiad i arddangos a dathlu dawns gyfoes, ynghyd â'n hymrwymiad i waith rhyngwladol a datblygu cynulleidfaoedd, aethom ati i drefnu Dyddiau Dawns.

"Diolch i lawer o waith caled, a'r tywydd gorau i ni ei fwynhau yn Abertawe ers tro byd, bu'r tri digwyddiad diwethaf yn llwyddiannus iawn. Gan fod gennym ymglymiad mwy gyda'n partneriaid yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau eleni, mae modd i ni groesawu mwy o gwmnïau i'r adeilad, a Ddinas a Sir Abertawe sy'n darparu'r llwyfan yn Sgwâr y Castell - sy'n helpu i roi proffil uchel i'r perfformiadau yno.

"Trwy dynnu dawns o amgylchedd y theatr, a thrwy ddefnyddio grwpiau dawns cymunedol yn ogystal ag artistiaid rhyngwladol adnabyddus, gallwn greu galw go iawn am ddawns yn Abertawe. Nawr rydym yn gobeithio am fwy o dywydd braf, ond rydym hefyd wedi trefnu digon o berfformiadau dan do rhag ofn!"  

Am fwy o wybodaeth am Dyddiau Dawns ewch i www.taliesinartscentre.co.uk neu cysylltwch â Stella Patrick, Rheolwr Marchnata ar 01792 602429.

Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.

Mae Amgueddfa Cymru'n rhedeg saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.