Datganiadau i'r Wasg

Byd cardbord yn ymgartrefu yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae t? cardbord ar ddangos ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi'i gynllunio gan yr artist newydd Vincenzo Raccuglia.

Mae Byd cardbord yn osodiad tri dimensiwn ysbrydoledig sy'n archwilio digartrefedd a'r atebion posibl mewn ffordd artistig.

Ar ôl iddo deithio o gwmpas Affrica a gweld treflannau De Affrica a phroject i bobl ddigartref cafodd Vincenzo ei ysbrydoli i greu gosodiadau tri dimensiwn sy'n nodweddu tai allan o gardbord. Yn aml defnyddir cardbord gan bobl ddigartref i greu cysgodfan.

Mae Vincenzo'n 28 oed o Balermo yn Sisili ac yn fyfyriwr Celf Gain ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Dyma'r tro cyntaf bydd ei waith ar ddangos i'r cyhoedd. 'Mae'n freuddwyd bod fy ngwaith ar ddangos yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau,' meddai ef. 'Nod fy ngwaith yw cynrychioli materion cymdeithasol a chyfredol a theimlaf y dylai pawb o bob haenen yn y gymdeithas gael y cyfle i'w weld.'

Dywedodd Awdur yr Oriel Andrew Deathe: 'Mae'r arddangosfa hon yn cymryd golwg amgen ar un o'r problemau sydd gan boblogaethau trefol cynyddol a materion tai. Mae Vincenzo'n defnyddio eironi artistig i beri i ni feddwl am brynwriaeth, ein cartrefi ein hunain a chartrefi'r rhai llai ffodus na ni. Rydym yn hapus iawn i ddangos ei waith a chynnal sioe arall sy'n ddifyr a gwahanol fel rhan o'n rhaglen o arddangosfeydd dros dro.'

Meddai Tim Davies sy'n artist a Chyfarwyddwr Cwrs Celf Gain yn y brifysgol: 'Cardbord yw deunydd hollbresennol ein hoes. Mae'n lapio gwrthrychau'r cyfoethogion ac yn cysgodi'r tlodion. Mae haenau o gardbord a daflwyd i ffwrdd yn dod yn fur rhag y gwynt, yr oerfel, yr ofnau a'r glaw. Rydym wedi hen arfer â gweld y fath gysgodfeydd o gardbord mewn drysau gyda'r nos ond yn aml anghofiwn am yr eneidiau byw sydd yn y cysgodion. Mae Vincenzo wedi defnyddio'r deunydd beunyddiol hwn a chyda pheth eironi mae'n ceisio cynnig adeiladau amgen. Mae'n estyn gwahoddiad i ni fel gwylwyr i ystyried ein safle o fewn y diwylliant hwn o brynwriaeth a difeddiant.'

Pan fydd Vincenzo yn graddio'r flwyddyn nesaf mae'n gobeithio parhau ei astudiaethau gydag MA mewn Therapi Celf sy'n archwilio swyddogaeth y dychymyg mewn celf.

Bydd y gosodiad ar ddangos ym mhrif neuadd yr Amgueddfa tan Sul 16 Awst.

Cyswllt y wasg: Marie Szymonski ar 01792 638970 neu e-bost: marie.szymonski@amgueddfacymru.ac.uk