Datganiadau i'r Wasg

Diogelu un o draethau Cymru

Ysgol Gymunedol Neyland yn ennill Gwobr Arloesedd Arbennig Amgueddfa Cymru

A hithau'n ddechrau gwyliau'r haf â'r ffocws ar lendid traethau Cymru, mae disgyblion Ysgol Gymunedol Neyland wedi cael eu gwobrwyo am eu gwaith i sicrhau bod eu traeth lleol yn y cyflwr gorau ar gyfer yr haf - project sydd wedi'i gydnabod trwy bartneriaeth Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro.

Er mwyn nodi 20 mlynedd o'r bartneriaeth rhwng yr Amgueddfa ac ysgolion yn Sir Benfro, cydweithiodd Amgueddfa Cymru gyda Chevron i drefnu gwobr wych eleni, sef taith ysgol am ddim i astudio natur leol gyda gwyddonwyr yr Amgueddfa.

Nod y wobr yw annog ysgolion i rannu gweithgareddau newydd a diddorol sy'n berthnasol i gynaladwyaeth. Dewiswyd Ysgol Gymunedol Neyland am eu project traeth lleol. Mae disgyblion yn yr ysgol yn Sir Benfro wedi bod yn gweithio gyda'u cymuned i ddod yn warchodwyr swyddogol o'u traeth lleol drwy ei lanhau'n gyson.

"Dwi'n hoffi archwilio'r traeth, mae hen gwch yno a chewyll cimychiaid," dywedodd Leanie o Ysgol Gymunedol Neyland. "Dwi'n mwynhau gweld fy ffrindiau a cherdded ar hyd y traethau cerrig a chodi sbwriel."

Mae Blake yn cytuno: "Mae'n lot o hwyl codi'n gynnar yn y bore i gasglu sbwriel a helpu'r amgylchedd fel ein bod ni'n medru chwarae'n saff ar y traethau, yn hytrach na sefyll ar wydr. Roedd hi'n grêt i ennill y wobr."

Trefnwyd y wobr gan SCAN - un o adnoddau addysgiadol yr Amgueddfa sy'n helpu ysgolion i ddatblygu cynlluniau cynaliadwy.

"Roedden ni am wneud rhywbeth arbennig eleni i nodi'r ffaith ein bod ni wedi bod yn cydweithio gydag ysgolion yn Sir Benfro ers 1989, ac rydym yn falch o gael gwobrwyo Ysgol Gymunedol Neyland am eu hymdrechion i barchu a diogelu eu hamgylchedd eu hunain," dywedodd Danielle Cowell, Rheolwr Project SCAN, Amgueddfa Cymru.

"Roedd y beirniaid wrth eu bodd gyda'r ysbryd cymunedol a grëwyd gan Neyland. Roedden nhw'n ymfalchïo yn y gwaith o ddiogelu eu hardal leol ac mae hynny'n rhan hanfodol o fywyd cynaliadwy."

Ychwanegodd Jane James, Rheolwr Polisi, y Llywodraeth a Materion Cyhoeddus ym Mhurfa Chevron yn Sir Benfro:

"Mae'r burfa wedi cydweithio â SCAN ers y dyddiau cynnar ac rydyn ni'n falch iawn i gefnogi'r project hwn. Mae partneriaeth yn gysyniad pwysig yng nghynllun y burfa i ymgysylltu â'r gymuned ac fe ddangosodd disgyblion Ysgol Gymunedol Neyland werth partneriaethau gyda'u project gwych i lanhau traethau."

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith safle ar draws Gymru gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185 neu e-bost catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.