Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn gwarchod i bobl Cymru bortreadau pastel o'r 18fed ganrif

Mae Amgueddfa Cymru'n falch o gyhoeddi ei bod wedi caffael yn ddiweddar ddau bortread pastel o'r 18fed ganrif o Syr Watkin Williams Wynn, y pedwerydd barwnig a'i wraig Charlotte Willams Wynn gan yr artist Gwyddelig Hugh Douglas Hamilton. Roedd y caffaeliad yn bosibl drwy grant pro rata o £25,000 oddi wrth y Gronfa Gelf sef prif elusen gelf annibynnol Prydain.

Mae safon y ddau bortread yn uchel iawn ac maent yn cynyddu'n sylweddol y casgliadau sy'n gysylltiedig â'r teulu ar casgliad portreadau cenedlaethol. Hefyd dyma'r gweithiau cyntaf gan yr artist pwysig o'r 18fed ganrif, Hugh Douglas Hamilton, i ddod i'n casgliad.

Meddai Beth McIntyre, Curadur Printiau a Darluniau: "Enghreifftiau gwych sydd yma o dechnegau gofalus sy'n dal golwg y modelau a'u cymeriad."

Meddai Andrew Macdonald, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa Gelf: "Mae'r ddau bortread hirgrwn yn eu fframiau gwreiddiol yn dathlu bywydau dau noddwr hael y celfyddydau. Maent felly yn ychwanegiad addas iawn at gasgliad parhaol Amgueddfa Cymru. Bydd y gweithiau cynnil hyn yn creu pâr diddorol gyda phortread arall sydd yn y casgliad gan Syr Joshua Reynolds o Charlotte Grenville, gwraig Syr Watkin Williams Wynn, a'i phlant (1777-9), oedd wedi'i caffael gyda chymorth y Gronfa Gelf ym 1998."

Arddangosir y gweithiau'n bennaf yn yr oriel celf y 18fed ganrif, sydd wedi'i hadnewyddu'n ddiweddar, byddant ar gael i'w gweld pan nad ydynt ar ddangos yn yr Ystafell Printiau a Darluniau.

Amcan Amgueddfa Cymru yw caffael gweithiau sy'n adlewyrchu hanes noddi a chasglu yng Nghymru. Bydd y gweithiau hardd hyn yn cynnig darlun mwy byw ac agosatoch o'r pâr priod, i gyd-fynd â pheintiadau crand Joshua Reynolds a Pompeo Batoni sydd eisoes gennym.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru, sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad i bob amgueddfa genedlaethol am ddim.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 029 2057 3185 / 07920 027067.