Datganiadau i'r Wasg

Yn eisiau: atgofion o Wibfaen Beddgelert

Mae Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn chwilio am wybodaeth newydd am yr allfydol.

Yn oriau mân y bore 21 Medi 1949 gwelodd llawer o bobl yng ngogledd Cymru a Swydd Gaer olau llachar yn symud yn gyflym yn yr awyr. Os mai chi oedd un o'r bobl a welodd hwnnw neu'n adnabod rhywun oedd yn dyst i'r digwyddiad (a ddisgrifir heddiw fel gwibfaen Beddgelert), hoffai Amgueddfa Cymru glywed gennych mewn digwyddiad ym Meddgelert ar ddydd Sadwrn 19 Medi 2009.

Eleni dethlir 60 mlynedd ers i westai yng Ngwesty Llewelyn Fawr, Beddgelert fod yn dyst i laniad gwibfaen Beddgelert. Clywodd y gwestai penodol hwn gyfres o gleciadau aneglur. Bu tawelwch am dair neu bedair munud ac yna s?n sïo fel awyren fechan a aeth yn uwch ac yn uwch nes iddo glywed s?n llechi'r to'n chwalu.

Wedyn gwelwyd bod twll crwn, taclus yn llechi to'r gwesty ac adnabuwyd y garreg dywyll a greodd dwll garw yn y nenfwd fel gwibfaen. Dim ond yr ail erioed i ddod o Gymru oedd hwn.

Er mwyn coffáu'r digwyddiad anarferol hwn bydd Amgueddfa Cymru ynghyd â Phrosiect Faulkes Telescope Prifysgol Caerdydd a BBC Cymru yn arddangos gwybodaeth yngl?n â'r gwibfaen yn Neuadd y Pentref, Beddgelert 10am-5pm ar ddydd Sadwrn 19 Medi 2009.

Rydym am gael gwybodaeth newydd yngl?n â digwyddiadau'r noson honno pan laniodd y gwibfaen. Dywedodd Heather Jackson, Dehonglydd Daereg sy'n arwain ar y project ar ran Amgueddfa Cymru:

"Rydym eisiau siarad â phobl oedd yn yr ardal ar noson 21 Medi 1949, sy'n adnabod rhywun oedd yno neu wedi clywed straeon gan eu teuluoedd a'u ffrindiau. Gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon yn ystod ein digwyddiadau dathlu i greu darlun cliriach o'r hyn a ddigwyddodd ym Meddgelert."

Os oes gennych stori i'w rhannu dewch i ymweld â ni ym Meddgelert neu cysylltwch â Heather Jackson ar (029) 20573142 neu drwy ebostio heather.jackson@amgueddfacymru.ac.uk.

Cafodd gwibfaen Beddgelert ai archwilio drwy gael ei dorri'n ofalus a'i rannu'n ddarnau rhwng gwahanol amgueddfeydd, prifysgolion a sefydliadau ymchwil. Mae Amgueddfa Cymru'n ffodus o gael darn bychan o wibfaen Beddgelert yn arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd y darn hwn yn cael ei gludo i Feddgelert ar gyfer y digwyddiad coffau.

Gweld Awyrfeini Cymru am fwy o wybodaeth

Mae'r digwyddiad yn rhan o'r project Down to Earth a ariennir gan Gyngor Adnoddau Gwyddonol a Technoleg, drwy Brifysgol Caerdydd.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar (029) 20573185 neu 07920 027067 neu ebostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.