Datganiadau i'r Wasg

O wirfoddolwr i Reolwr Amgueddfa

Dewiswyd Dai Price i arwain tîm Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dechreuodd Dai Price ei yrfa fel gwirfoddolwr yn Amgueddfa Ceredigion a threuliodd chwe blynedd fel Gwern y Celt yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn y pentref Celtaidd yno. Aeth ymlaen i ddatblygu rhaglen addysg Amgueddfa Cymru ar y Rhufeiniaid. Erbyn hyn mae'r dyn o Aberystwyth wedi'i benodi'n Rheolwr ar Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

"Eiddo'r cyhoedd yw'r casgliad felly rwyf am wybod beth maen nhw eisiau gwneud ag ef," meddai Dai Price fydd yn arwain un o'n saith amgueddfa genedlaethol sef yr un sy'n cynnwys ein casgliad Rhufeinig.

Am iddo weithio fel dehonglydd ym mhentref Celtaidd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru cyn iddo fynd yn Swyddog Addysg yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru mae gan Dai ddealltwriaeth dda o'r hyn mae ymwelwyr am ei weld. Hoffai ddefnyddio'r wybodaeth honno a'i brofiad wrth ddatblygu'r ymweliad perffaith i bobl sy'n dod i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion.

"Buom yn arbrofi gyda thechnoleg newydd i roi dimensiwn arall i'n harddangosiadau gan geisio ehangu ar beth gallwn ei gynnig," meddai Dai. "Hefyd rydym am ailedrych ar sut rydym yn arddangos ein casgliadau i'w gwneud yn fwy perthnasol i'n hymwelwyr."

Mae Dai'n gobeithio rhoi ffocws newydd i'r tîm yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru gan gydnabod ar yr un pryd eu gwaith aruthrol y tu ôl i'r llenni. Meddai: "Fy ngwaith i erbyn hyn yw sicrhau bod y staff yn cael eu sbarduno a chynnal ein traddodiad o weithio ar y cyd o fewn ein tîm. Mae gennym ymroddiad i ardderchogrwydd yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru sy'n sicrhau bod pob ymwelydd yn mwynhau ei hun."

Astudiodd Dai Price Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd gan gymryd diddordeb penodol mewn rhai agweddau ar hanes yr oesoedd canol, archeoleg a hanes Cymru. Yn ystod yr haf bu'n gwirfoddoli yn Amgueddfa Ceredigion. Roedd y profiad hwn o gymorth iddo gael swydd amser llawn ar fenter Aberystwyth Ddoe yn Amgueddfa Ceredigion.

Symudodd wedyn i gyrion Caerdydd lle bu'n gweithio ar ddatblygu sesiynau i ymwelwyr ym mhentref Celtaidd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru a ddylanwadodd ar ei yrfa ym maes addysg. Aeth ymlaen i fod yn Swyddog Addysg yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru cyn cael cynnig bod yn Rheolwr yr Amgueddfa honno.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Diwedd

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar (029) 20573185 neu 07920 027067 neu ebostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.