Datganiadau i'r Wasg

Amffitheatrau - sut a phwy oedd yn eu defnyddio

Darlith Flynyddol Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru'n archwilio rôl yr amffitheatr a chymunedau Prydain yn oes y Rhufeiniaid

Bydd Tony Wilmott, cyd-gyfarwyddwr prosiect amffitheatr Caer yn dod i Gaerllion - cartref caer lleng Rufeinig barhaol arbennig arall Prydain ar gyfer Darlith Flynyddol Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar ddydd Mercher, 23 Medi 2009 o 7 - 9 yr hwyr.

 Ar ôl cloddio rhan helaeth o'r amffitheatr yng Nghaer, bydd Mr Wilmott sy'n Brif Archeolegydd gyda Chanolfan Archeoleg Treftadaeth Lloegr, yn archwilio sut y defnyddiwyd y strwythurau hynod a gan bwy.

Bydd ei sgwrs yn cynnwys y lleoliad Rhufeinig pwysig yng Nghaerllion, sy'n ein hatgoffa o'r bobl oedd yn byw yn yr ardal 2,000 o flynyddoedd yn ôl, yr anifeiliaid a'r digwyddiadau fu unwaith yn ei llenwi. Yr amffitheatr a godwyd tua 90 OC ac a gloddiwyd yn y 1920au gan Mortimer a Tessa Wheeler a'i rhoi'n anrheg wedyn i'r genedl gan eu noddwyr y Daily Mail, yw'r enghraifft sydd wedi'i chloddio'n fwyaf trylwyr o'r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig.

Archebwch docynnau ar gyfer y Ddarlith Flynyddol, a gynhelir yn Ysgol Gynradd Caerllion, o flaen llaw os gwelwch yn dda, drwy ffonio 01633 423134. Mae'r tocynnau'n costio £3 yr un.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Diwedd

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar (029) 20573185 neu 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.