Datganiadau i'r Wasg
Y nifer uchaf erioed yn ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru
Dyddiad:
2009-10-06Croesawodd Amgueddfa Wlân Cymru y nifer uchaf erioed o ymwelwyr mewn un diwrnod ar 26 o Fedi, gyda 750 o ymwelwyr.
Cynhaliwyd Gwyl Fwyd yn yr Amgueddfa ar y dydd Sadwrn hwnnw, wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr gyda gweithgareddau yn cynnwys arddangosiadau coginio, cystadleuthau coginio, cystadleuthau i dimoedd o blant a phobl ifainc, gweithdy clocsio a pherfformiad ynghyd â stondinau bwyd.
Cynhaliwyd yr arddongosiadau gan Gareth Richards o Lambed gyda’r gystadleuaeth coginio, wedi’i arwain gan Rhiannon Ainsworth, Pennaeth Ysgol Aberbanc, rhwng John Crossley o Beiriannau Gardd Dyffryn Teifi a Mark Rees o J. E. Rees & Sons. Y dasg oedd gan y ddau oedd coginio pancwsen.
Enillwyr y gystadleuaeth i blant i greu wyneb allan o ffrwythau oedd Dion Jones a Tomos Evans o Ysgol Aberbanc, gyda Emily Lewis a Rowan Bristow o Ysgol Brynsaron yn ail.
Enillwyr y gystadleuaeth i ddisgylbion uwchradd iau, i gysylltu cynnyrch â wahanol stondinau, oedd Charlie Hughson a Ella Hutchinson o Ysgol Gyfun Emlyn.
Bu rhaid i’r disgyblion uwchradd h?n goginio crepe a’r enillwyr oedd Ashleigh Bell ac Amy Knols o Ysgol Gyfun Llambed. Noddwyr y gystadleuaeth oedd E.H. Factors, J.E. Rees & Sons a Peiriannau Gardd Dyffryn Teifi.
Cymroedd nifer o bobl o bob oed ran yn y gweithdy clocsio, a gynhaliwyd gan Nia Jones a Cerian Phillips o Aelwyd Hafodwennog, a chafwyd perfformiad ganddynt ar y diwedd.
Dywedodd Joanna Thomas, Rheolwraing Dros Dro Amgueddfa Wlân Cymru: “Rydym mor falch i gael bod wedi croesawu cymaint o’r gymuned i’r Amgueddfa ar yr achlysur hwn, mae’r niferoedd a groesawyd yn deyrnged i’r lleoliad a’r naws bendigedig yn yr Amgueddfa ynghyd ag i’r gwaith partneriaethol rhyngom ni, Menter Gorllewin Sir Gâr, ysgolion yr ardal, busnesau lleol ac wrth gwrs y gymuned.
“Hoffem ddiolch i’r stondinwyr am eu hamrywiaeth o gynnyrch arbennig. Mae safon uchel y cynnyrch lleol yn deyrnged i ymrwymiad busnesau lleol.” Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Wlân Cymru ac i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Heledd Gwyndaf, Swyddog Cyfathrebu, neu Joanna Thomas ar (01559) 370929.