Datganiadau i'r Wasg

Deuawd rhwyfo blaengar yn cael eu dilyn gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dychmygwch rwyfo 2,500 o filltiroedd môr ar draws yr Iwerydd a pharatoi ar gyfer 65 o ddyddiau ar y môr. Mae'n her heb ei ail sy'n wynebu dau ddyn tân o Abertawe fis Rhagfyr.

 

 

Mae Mike Arnold yn ddeugain oed ac yn dod o'r Mwmbwls a Simon Evans yn 38 oed o ardal Brynmill. Mae'r ddau'n ymbaratoi at y prawf o'u cryfder a'u gwytnwch gyda Ras Woodvale ar draws yr Iwerydd. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn eu dilyn pob rhwyfiad o'r ffordd gydag arddangosfa arbennig.

Nhw yw'r unig dîm o Gymru a dechreuant yn La Gomera yn yr Ynysoedd Dedwydd a mynd i Antigwa yn y Caribî, sy'n daith o 2,500 o filltiroedd môr fydd yn cymryd rhyw 65 o ddyddiau. Byddant yn hwylio mewn cwch Adkin Paris sydd wedi'i adeiladu'n unswydd ac sy'n mesuro 23.4 o droedfeddi ar hyd a 6.3 o droedfeddi ar draws yn unig.

Bu'r ddau'n hyfforddi'n galed ers mis Ionawr. Mae'r LC, sef canolfan hamdden Abertawe, yn noddi Mike a Simon, a buont yn hyfforddi yn y gampfa amlbwrpas yno yn ogystal a rhwyfo am oriau ar y môr agored gyda Chlwb Rhwyfo'r Mwmbwls.

Mae'r ddau'n ddynion tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a bu Mike a Simon yn gyfeillion a chydweithwyr am ugain mlynedd a mwy. "Mae'n her rwyf wastad wedi eisiau ei gwneud," meddai Mike. "Gofynnais i Simon ac mae'r gweddill ar glawr. Cawsom gymaint o gefnogaeth oddi wrth gyfeillion, teulu a'r gymuned leol. Rydym yn edrych ymlaen yn arw," meddai.

Yn ystod y ras bydd y ddau'n llosgi hyd at 9,000 o galorïau'r dydd felly bydd bwyd yn flaenoriaeth. Meddai Simon: "Bydd llawer o fwyd i'w ferwi yn y bag a siocled, ffrwythau sych a bariau egni i'w bwyta."

Mae Andrew Deathe, Awdur Oriel, yn hapus i gydlynu'r arddangosfa fydd yn cychwyn ar ddydd Sadwrn 28 Tachwedd. Dywedodd: "Dilynwn y ddau drwy gydol y ras ac ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf arddangoswn y cwch a ddefnyddiwyd ym mhrif neuadd yr Amgueddfa."

Mae'r ddau'n gofyn am nawdd ac maent yn codi arian at Elusen yr Ymladdwyr Tân sy'n darparu ystod o wasanaethau i godi safon bywyd staff presennol y gwasanaeth tân a'r rhai sydd wedi ymddeol a'u teuluoedd.

Meddai Simon: "Mae'n mynd i fod yn galed ond dyma gyfle sy'n dod unwaith mewn oes ac rydym yn barod i'w gymryd."

Nodiadau i'r golygydd:

Bydd Ras Rwyfo'r Iwerydd yn dechrau ar Sul 6 Rhagfyr 2009 o La Gomera yn yr Ynysoedd Dedwydd. Bydd y daith yn cymryd rhyw 65 o ddyddiau.

Am fwy o wybodaeth ar Rwyfo Cefnfor Woodvale ewch i http://www.woodvale-challenge.com

Am fwy o wybodaeth ar daith Mike a Simon ewch i www.atlanticelement.co.uk

Am fwy o wybodaeth ar Elusen yr Ymladdwyr Tân ewch i http://www.firefighterscharity.org.uk/

Pob blwyddyn caiff miloedd o ymladdwyr tân eu hanafu wrth amddiffyn y cyhoedd. Pob hanner munud ym Mhrydain caiff ymladdwyr tân eu galw i ddigwyddiad gan beryglu eu bywydau a chael anafiadau wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae Elusen yr Ymladdwyr Tân yn helpu ymladdwyr tân yn eu hangen ac yn gymorth i dros 13,500 o bobl bob blwyddyn gan gynnig triniaeth flaengar a gwasanaethau cefnogi.