Datganiadau i'r Wasg

Penddelw deddfwr radical yn cael ei gyflwyno i'r Amgueddfa Genedlaethol

Dadorchuddio penddelw efydd newydd o Leo Abse yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ar 22 Hydref 1969 cyflawnodd Leo Abse, cyn Aelod Seneddol Pont-y-p?l, un o'i brif lwyddiannau gwleidyddol - sef pasio'r Ddeddf Diwygio Ysgariad. Deugain mlynedd yn ddiweddarach bydd penddelw efydd yn cael ei ddadorchuddio i goffau'r gwleidydd a'r diwygiwr cymdeithasol hwn o Gymru.

Bydd cerflun yr artist Luke Shepherd o Leo Abse yn cael ei ddadorchuddio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mewn digwyddiad preifat ddydd Iau 22 Hydref 2009. Yna, bydd y penddelw a gomisiynwyd gan gwmni cyfreithwyr Leo Abse & Cohen yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yn un o orielau celf yr Amgueddfa.

Yn ôl rhai, cafodd Leo Abse fwy o ddylanwad ar ddatblygiad cyfreithiau yn ymwneud â materion teuluol nag unrhyw Aelod Seneddol arall yn yr ugeinfed ganrif. Credir i'w bersonoliaeth liwgar, ei egni diderfyn, ei gysylltiadau â'r wasg a'i berthnasau agos â rhai gweinidogion chwarae rhan bwysig yn ei lwyddiant mewn materion seneddol.

"Eisteddodd Leo Abse ar fy nghyfer yn fy stiwdio yng Nghaerdydd ym 1988," dywedodd Luke Shepherd, sydd yn ail gefnder i Abse.

"Ni fu'r cynnig cyntaf yn llwyddiannus iawn, ond daeth yn amlwg nad oedd llawer ar gael i goffau bywyd Abse. Oherwydd hyn ymroddais i greu ail ddelw efydd a fyddai'n cadw'r cof am ei waith gwleidyddol pwysig yn fyw ym meddyliau'r Cymry!

"Wrth dyfu, doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb yn ei weithgareddau gwleidyddol, er ei fod yn ail gefnder i mi. Roedd fy rhieni'n meddwl y byd ohono, ond fel teulu ni fyddem yn ei weld yn aml.

"Serch hynny, roeddwn i'n ffodus iawn i gael y cyswllt yma a'i gwnaeth yn bosib i mi greu'r penddelw hwn o un o wleidyddion mwyaf galluog a di-flewyn-ar-dafod Cymru, ac un o ddiwygiwr gwleidyddol mwyaf llwyddiannus Prydain yr ugeinfed ganrif."

Noddir y rhodd hwn gan un o gwmnïau cyfreithiol mwyaf Cymru, Leo Abse & Cohen, sydd yn parhau i ddefnyddio ei enw hyd heddiw. Dywedodd Robin Williams, Uwch Bartner, Leo Abse & Cohen:

"Rydyn ni'n falch iawn i gael y cyfle hwn i gyfrannu at gasgliad hynod yr Amgueddfa a darparu cofeb barhaol i Leo." Dyma'r ail ddarn gan Shepherd i gael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Comisiynwyd y cyntaf gan Ymddiriedolaeth Derek Williams i goffau 20 mlynedd ers sefydlu'r berthynas rhwng yr Amgueddfa a'r Ymddiriedolaeth. Dywedodd Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru:

"Mae Amgueddfa Cymru'n casglu darluniau o Gymry sydd wedi rhagori yn eu meysydd arbennig, ac mae gennym filoedd o bortreadau mewn amryw o gyfryngau. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i gyfreithwyr Leo Abse & Cohen am ei wneud yn bosib i ni ychwanegu'r cerflun cain hwn o un o brif ddiwygwyr cymdeithasol yr 20fed ganrif at ein casgliadau."

Ceir rhagor o enghreifftiau o waith Luke Shepherd ar ei wefan: www.luke-shepherd.com.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ble fydd y penddelw'n cael ei harddangos diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu 07920 027067.

neu

Luke Shepherd ar 01364 652012 neu luke@abcbronze.co.uk.