Datganiadau i'r Wasg

Y peintiad cyntaf gan Picasso i Gymru

Amgueddfa Cymru’n caffael Bywyd llonydd gyda phoron gan Picasso ar gyfer casgliad cenedlaethol Cymru

Bydd arddangosfa newydd am ddim o beintiadau bywyd llonydd, gan gynnwys y gwaith hynod Bywyd llonydd gyda phoron (1948) gan Pablo Picasso – y peintiad olew cyntaf o'i waith i ddod yn rhan o gasgliad cyhoeddus Cymru – yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Mawrth 10 Tachwedd 2009.

Prynwyd Bywyd llonydd gyda phoron gan Amgueddfa Cymru am £1.435 miliwn, drwy ei Chronfa Ganmlwyddiant a grewyd gyda nawdd cyfartal gan Ymddiriedolaeth Derek Williams, dros gyfnod o bum mlynedd. Cyfrannodd y Gronfa £1.335 miliwn tuag at y caffaeliad a gefnogwyd hefyd gan grant sylweddol oddi wrth yr elusen annibynnol y Gronfa Gelf (£100,000).

Menter ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams yw’r Gronfa Ganmlwyddiant sy’n dathlu canmlwyddiant yr Amgueddfa drwy brynu gweithiau celf fodern. Peintiad bywyd llonydd Picasso yw’r pwysicaf o’r rhain. Caiff ei arddangos ar bwys gweithiau gan artistiaid enwog eraill yr 20fed ganrif gan gynnwys Paul Cézanne, Giorgio Morandi a Ceri Richards.

Mae Bywyd llonydd gyda phoron a brynwyd oddi wrth Oriel E ac R Cyzer, Llundain yn cynnwys cimwch, lemwn a phoron (neu porrón – piser gwin Sbaeneg traddodiadol) ar fwrdd cegin. Peintiwyd y gwaith yn stiwdio’r artist ar Rue des Grands Augustins ym Mharis yn Rhagfyr 1948.

Peintiodd Picasso, artist mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, weithiau bywyd llonydd drwy gydol ei yrfa. Defnyddiodd fywyd llonydd i arbrofi gydag ystod eang o arddulliau a ffyrdd o ymdrin â gweithiau. Er i'r llun gael ei beintio ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae Bywyd llonydd gyda phoron yn enghraifft o gyfraniad pwysicaf Picasso i'r byd celf sef datblygiad Ciwbiaeth yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Eglurodd Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru, pam bod y caffaeliad mor bwysig i’r Amgueddfa:

“Mae gan Amgueddfa Cymru bedwar gwaith ar bapur gan Picasso a chafwyd gr?p pwysig o’i seramegau gwreiddiol ar gyfer y casgliad y llynedd fel rhan o’r Gronfa Canmlwyddiant. Er bod y rhain yn gynrychiadol iawn o waith Picasso roedd diffyg yno sef peintiad olew. Mae Bywyd llonydd gyda phoron yn cwblhau ein portread o un o athrylithoedd creadigol mwyaf y ganrif ddiwethaf.”

Erbyn y 1940au roedd yn rhaid i bob artist blaengar ymaddasu yn sgil Picasso neu ymwrthod â'i waith. Felly mae'r un mor berthnasol i Gymru a Phrydain ag i unrhyw le. Mae’r peintiad hwn yn cysylltu gweithiau Ysgol Paris yr Amgueddfa - Manet, Monet, Van Gogh a Cézanne - gyda rhai o’i gweithiau pwysicaf o’r cyfnod ar ôl y rhyfel gan gynnwys gweithiau gan artistiaid fel Ceri Richards a Graham Sutherland sydd â chysylltiadau agos â Chymru.

Yn ôl y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones:

“Rwy’n falch i glywed bod Amgueddfa Cymru wedi llwyddo i brynu gwaith gan artist o statws Picasso. Mae’n adlewyrchu’r ymrwymiad gan yr Amgueddfa a Llywodraeth Cynulliad Cymru i drawsnewid Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i fod yn lle i weld celf o safon ryngwladol.”

Ychwanegodd Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru:

“Rydym yn ddiolchgar i’r ymddiriedolaethau annibynnol sydd wedi gwneud y caffaeliad hwn yn bosibl sef Ymddiriedolaeth Derek Williams yng Nghaerdydd, ein partneriaid yn y Gronfa Ganmlwyddiant, a'r Gronfa Gelf sydd wedi dangos cefnogaeth hael iawn. Heb gefnogaeth yr ymddiriedolaethau hyn byddai’n anodd iawn i amgueddfeydd ac orielau celf ddatblygu eu casgliadau mewn marchnad sydd mor anodd o gystadleuol i gaffael gweithiau da ynddi.”

Dywedodd Ivan Sadka, cadeirydd Ymddiriedolaeth Derek Williams:

“Mae cyflwyno’r peintiad hwn i gasgliad yr Amgueddfa Genedlaethol yn deyrnged addas i’n sefydlydd, Derek Williams a fu farw 25 mlynedd yn ôl i’r mis hwn oherwydd ei hoffter o gelf o ganol yr 20fed ganrif.”

Mae'r Gronfa Gelf hefyd yn sylweddoli pwysigrwydd y paentiad hwn i Gymru. Dywedodd Andrew Macdonald, Cyfarwyddwr dros dro y Gronfa Gelf:

“Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gartref i nifer o weithiau pwysig gan feistri’r 20fed ganrif ond nid oedd ganddi beintiad gan Picasso tan nawr. Mae’n briodol felly bod gwaith gan feistr mwyaf y ganrif ddiwethaf yn ymuno â chasgliad cenedlaethol Cymru. Mae'r Gronfa Gelf yn falch i roi gweddill yr arian oedd ei angen i brynu’r peintiad, sydd wedi treulio cymaint o amser mewn dwylo preifat. Bydd y cyhoedd yn ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

Mae E ac R Cyzer yn falch i fod yn rhan o werthiant Bywyd llonydd gyda phoron. Dywedodd Richard Cyzer o’r oriel yn Stryd Bruton, Llundain:

“Rydym yn falch iawn i fod yn rhan o brynu'r enghraifft wych hon o waith Pablo Picasso o adeg bwysig yn ei fywyd.”

Mae mynediad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'r arddangosiad yno o 10 Tachwedd 2009.

Ym Medi 2010 caiff ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fwynhau casgliad modern yr Amgueddfa drwy weld arddangosfeydd newydd ym mloc canol yr adeilad. Wedyn yn haf 2011 bydd cyfle arall i weld ei chasgliad enfawr o weithiau wedi 1950.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 20573185 / 07920 027067 neu catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.