Datganiadau i'r Wasg

Gweddillion ysgerbydol Maori'n mynd adref

Cynnal seremoni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cynhelir digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Llun 16 Tachwedd 2009 i baratoi 12 k?iwi tangata neu weddillion o hynafiaid y Mäoriaid ar gyfer eu taith adref.

Mae'r seremoni breifat yn gam cyntaf yn y broses o anfon gweddillion ysgerbydol un fenyw ac esgyrn 11 o bobl eraill – un fenyw, pump yn wrywaidd a’r gweddill yn anhysbys yn ôl i’w cymuned wreiddiol yn Seland Newydd. Fe’i trefnwyd mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Seland Newydd Te Papa Tongarewa. Yn ogystal a’r 12 k?iwi tangata yma, bydd casgliad llai o weddillion ysgerbydol yn dychwelyd gyda Te Papa.

Hyd yn hyn bu’r ysgerbydau’n rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru. Wrth eu harchwilio'n ddiweddar, roedd amryw o’r gweddillion yn dangos nodweddion sy’n gyson â threftadaeth Polynesaidd. Erbyn hyn mae’n edrych yn debyg y cafwyd y gweddillion arbennig hyn yn wreiddiol o Ahuahu yn yr Ynysoedd Mercury sef yr ynys fwyaf yn eu plith a'r bwysicaf yn hanesyddol.

“Ar ôl astudio’r gweddillion a sylweddoli eu pwysigrwydd i’r gymuned Mäori, teimlai Amgueddfa Cymru ei bod yn briodol i’w cynnig yn ôl i’w gwlad wreiddiol er mwyn iddynt orffwys yn dawel,” dywedodd Richard Brewer, Ceidwad Archeoleg, Amgueddfa Cymru.

Ychwanegodd Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru:

“Dyma’r tro cyntaf i’r Amgueddfa roi cynnig ar broses fel hon a gobeithiwn y bydd yn gyfle i ddechrau cydweithio ag eraill yn y dyfodol.”

Mae’r seremoni, sy’n rhan o Karanga Aotearoa - awdurdod mandad llywodraeth Seland Newydd sy’n trefnu dychwelyd gweddillion Mäori ar ran y Mäoriaid, yn para tuag awr. Cyn i’r gweddillion gael eu lapio, bydd galwad yn cael ei llafarganu fel cydnabyddiaeth i’r k?iwi tangata. Wedyn caiff y köiwi tangata eu cyfarch. Ar ôl gweddi i gloi, bydd pob cyfrannwr i’r seremoni yn cyffwrdd trwynau ac yn taenu d?r dros eu pennau a’u cyrff.

Diolchodd Mr Te Herekiekie Herewini, Rheolwr Dychwelyd Gweddillion i’w Mamwlad Te Papa, Amgueddfa Cymru am gytuno i ddychwelyd yr hynafiaid i Seland Newydd:

“Mae hyn yn bwysig i’r Mäoriaid. Credir trwy eu dychwelyd i’w mamwlad, bydd y meirwon a’u disgynyddion byw yn ailafael a’u hurddas, a hefyd yn dod ag anaf a chamweddau’r gorffennol i ben,” dywedodd Mr Herewini.

Ers Mai 2004, mae Te Papa wedi dychwelyd gweddillion o wyth gwlad, gan ddod â bron i 149 k?iwi tangata (gweddillion ysgerbydol) a toi moko (pennau â thatw mymiedig) adref.

Mae uchafbwyntiau o gasgliad archeoleg parhaol Amgueddfa Cymru ar ddangos yn Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’n dilyn stori’r bobl gyntaf o 230,000 o flynyddoedd yn ôl hyd at ddiwedd y Canol Oesoedd.

Mae mynediad am ddim i'n saith amgueddfa genedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 20573185 / 07815 743505 neu catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.