Datganiadau i'r Wasg

Ymweld â Siôn Corn

Eto eleni bydd Big Pit yn cynnig gweithgareddau Nadoligaidd sydd ychydig yn wahanol. Mae'r Nadolig ar ein gwarthaf ac mae Siân Corn wedi ymgartrefu yn yr Amgueddfa am dair wythnos ym mis Rhagfyr er mwyn bod yn nes at blant y De.

Erbyn hyn mae'r digwyddiad teuluol, poblogaidd Ymweld â Siân Corn yn ei bumed flwyddyn a bydd yn digwydd yn hanner cyntaf mis Rhagfyr.

Meddai Siân Corn: 'Mae'n bleser dychwelyd i Big Pit eto eleni. Mae gyda ni d? yno lle rydym yn hoffi treulio'r gaeaf. Mae'n dwymach na Lapdir ac mae Rudolph yn dwlu ar grwydro dros fynydd Coety y tu ôl i'r pwll. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â phlant y De eto a rhannu storïau gyda nhw am ein paratoadau at y Nadolig.'

Gallwch gwrdd â Siân Cornyn Big Pit ar 29 Tachwedd a 5, 6, 12 a 13 Rhagfyr. Bydd y sesiynau'n digwydd 11am-4pm a'r gost yw £1 y plentyn.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Mae mynediad am ddim i bob amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.