Datganiadau i'r Wasg

Gwobr Addysg bwysig i Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis

Mae Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis wedi ennill Gwobr Sandford yn ddiweddar am addysg dreftadaeth.

 

Dyma’r tro cyntaf i’r amgueddfa ennill y wobr hon am ansawdd uchel y ddarpariaeth addysg ar gyfer ysgolion lleol ac ysgolion sy’n ymweld, a chafodd adroddiad canmoliaethus gan y beirniaid a fu’n gwylio ymweliad gan blant ysgol yn gynharach eleni ac yn gwneud asesiad trylwyr yn seiliedig ar bolisïau, gweithdrefnau, adnoddau a gweithdai addysgol. 

“Er ei fod yn brofiad eithaf brawychus, roeddem wrth ein bodd gyda phenderfyniad y beirniaid,” meddai Elen Roberts, Swyddog Addysg yr Amgueddfa. “Roeddynt yn fodlon iawn ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac maent wedi rhoi’r wobr hon i ni i gydnabod rhagoriaeth y gwasanaeth addysg a ddarperir gennym.  Rydym yn gyson yn ceisio denu rhagor o ysgolion lleol i’r Amgueddfa a gobeithiwn y bydd y wobr hon yn helpu i ledaenu’r neges am yr hyn sydd gennym i’w gynnig.”

Mae Gwobr Sandford yn ddilys am bum mlynedd, ac mae’n cael ei hystyried yn ‘Asesiad Sicrwydd Ansawdd’ gan feirniaid annibynnol o addysg dreftadaeth.  Rhoddir y Gwobrau’n flynyddol, ac maent yn cydnabod ansawdd a rhagoriaeth y gwasanaethau a chyfleusterau addysgol ar safle, gan gynnwys ymwybyddiaeth o’r cwricwlwm cenedlaethol a chydymffurfiad ag ef; cyfrannu at godi ymwybyddiaeth o’r dreftadaeth leol a chenedlaethol; tystiolaeth o berthynas dda â sefydliadau addysgol; pa mor dda y mae potensial addysgol y safle’n cael ei ddatblygu; darparu adnoddau addysgol perthnasol; a darparu cyfleusterau ychwanegol sy’n gwella ansawdd ymweliad y myfyrwyr.

 Meddai Marilyn Sumner, y prif feirniad: 

“Mae athrawon sy’n gwneud ymweliadau cyffredinol yn dychwelyd i Amgueddfa Lechi Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda’u disgyblion i ysgogi dysgu. Mae lefel y gwasanaeth a’r …rhaglenni a gynigir i ysgolion lleol a rhai sy’n dod o bell wedi cynyddu.  Mae artistiaid, cerddorion ac awduron lleol yn cydweithio â’r tîm Addysg i ddyfeisio prosiectau a luniwyd i ddangos sut y gall ymweliad ag amgueddfa fod yn hwyl ac yn werth chweil o safbwynt addysgol.”

 Dywedodd Ceri Black, Pennaeth Dysgu yn Amgueddfa Cymru:  

"Llongyfarchiadau i Amgueddfa Lechi Cymru ar ennill y wobr hon. Mae Gwobr Sandford yn cydnabod ansawdd uchel ein hamgueddfeydd – mae ein holl safleoedd wedi ennill y wobr hon erbyn hyn, ac mae rhaglen addysg yr amgueddfa i ysgolion yn parhau’n brysur ac yn cael derbyniad da gan ysgolion o bob rhan o Gymru a’r DU.”

 Bydd yr Amgueddfa yn derbyn y wobr yn ddiweddarach yn y flwyddyn mewn seremoni gyflwyno genedlaethol sy’n ddigwyddiad pwysig yn y calendr Addysg Dreftadaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o raglenni neu weithdai addysgol yr Amgueddfa, neu am weithgareddau anffurfiol i blant yn ystod y gwyliau, cysylltwch ag Elen Roberts ar 01286 873706 neu anfonwch e-bost at elen.roberts@museumwales.ac.uk.

Mae Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yn gyfrifol am saith amgueddfa drwy Gymru, sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon;  Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  Mae mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn ddi-dâl, diolch i nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwybodaeth y Wasg: Am ragor o wybodaeth i’r wasg a ffotograffau, cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707 e-bost: julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk neu Elen Roberts ar 01286 873706 elen.roberts@amgueddfacymru.ac.uk